Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw na fyddan nhw’n cyflwyno cais i gynnal Gemau’r Gymanwlad ymhen deng mlynedd.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith fod y Cabinet wedi ystyried y posibilrwydd yn fanwl.

Ond, ar ôl cymryd i ystyriaeth yr “ansicrwydd ariannol presennol” yn sgil pleidlais Brexit, dywedodd nad oedd y Llywodraeth mewn sefyllfa i gynnig cynnal y Gemau yn 2026.

‘Ddim yn ymarferol’

Mae’r Llywodraeth wedi bod yn trafod y posibilrwydd o gynnal y Gemau gydag asiantaethau fel Gemau Gymanwlad Cymru a Chwaraeon Cymru ers tua phedair blynedd bellach.

Ond, esboniodd Ken Skates bod astudiaeth ddiweddar wedi rhagweld y gallai’r gemau gostio rhwng £1.32bn a £1.54bn i’w cynnal.

“Byddai’r costau hynny’n golygu ymrwymiad ariannol ychwanegol anferth i Lywodraeth Cymru dros dymor tri Chynulliad.

“O gofio’r costau mawr, y ddealltwriaeth y byddai Cymru gyfan yn llai tebygol o gael ei gefnogi a’r ansicrwydd ariannol yn sgil y bleidlais i adael yr UE, rydym wedi penderfynu’n anfoddog na fyddai’n ymarferol cynnig i gynnal Gemau’r Gymanwlad 2026,” meddai Ken Skates.

‘Siomedig’ ond yn ‘deall’

Dywedodd llefarydd ar ran Gemau’r Gymanwlad Cymru eu bod yn “siomedig” â phenderfyniad y Llywodraeth i beidio â chynnal y gemau, ond eu bod hefyd yn “deall.”

“Yn naturiol rydym yn siomedig o glywed am benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chefnogi cais i Gymru gynnal Gemau’r Gymanwlad 2026,” meddai Helen Phillips, Cadeirydd Gemau’r Gymanwlad Cymru.

“Mae Cymru yn genedl sy’n falch o garu chwaraeon ac rwy’n siŵr y byddai wedi cefnogi gwneud cais. Ond, oherwydd ansicrwydd economaidd rydym yn deall efallai nad nawr yw’r adeg iawn,” ychwanegodd.

‘Ddim yn ofer’

Er na fydd cais yn cael ei gyflwyno i gynnal Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru, dywedodd Ken Skates nad yw’r gwaith sydd eisoes wedi’i wneud “yn ofer.”

Yn hytrach, dywedodd fod y gwaith paratoi wedi “dangos inni fod angen cynnal adolygiad o’r cyfleusterau chwaraeon yng Nghymru gyda golwg ar gynyddu’r amrywiaeth sydd o safon byd.”

Ychwanegodd hefyd fod y Llywodraeth yn barod i “adolygu’r rhwydwaith o gyfleusterau chwaraeon” er mwyn sicrhau y gall Cymru groesawu digwyddiadau mawr yn y dyfodol.

‘Cibddall’

Yn dilyn y cyhoeddiad dywedodd Aelod Seneddol Ceidwadol Gogledd Caerdydd Craig Williams bod  penderfyniad Llywodraeth Cymru yn  “gibddall” a’i bod wedi “colli cyfle arall i roi Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.”

“Roedd eu maniffesto wedi datgan sut y byddai’r gemau yn helpu Cymru i fod yn fwy unedig, hyderus ac yn gwella cysylltiadau, ac eto maen nhw’n hapus i dorri’r addewid yma,” meddai Craig Williams.