Poster y cyfarfod
Fe fydd cyfarfod heno i drafod pryderon pobol cefn gwlad yn dilyn y bleidlais Brexit ddiwedd mis Mehefin.

Dyma fydd yr ail o ddwy sesiwn, sydd wedi’i drefnu gan Radio Beca, i drafod effeithiau gadael yr Undeb Ewropeaidd a’r ffordd ymlaen i gymunedau gwledig Ceredigion.

Nid amaethyddiaeth fydd yn hawlio’r holl sylw, gyda’r trefnwyr yn dweud bod pryderon pobol cefn gwlad yn sgil Brexit yn mynd ymhellach ‘na materion ffermio’n unig.

Yn ôl Lowri Fron, un o drefnwyr cyfarfod ‘Sdim cynllun ‘da Llunden, beth yw’n cynllun ni?’, y bwriad yw cael cymaint o bobol at ei gilydd i drafod syniadau i “ymateb i unrhyw beth yn ymwneud â Brexit.”

“Gallwn ni fynd ag ambell syniad yn ôl i’n cymunedau neu i’n cymdeithasau a rhoi rhai ohonyn nhw ar waith,” meddai wrth golwg360.

“Pobol cefn gwlad ydyn ni ond yn ymateb o’n cymunedau yn hytrach nag o safbwynt cefn gwlad neu ffermio. O ran y pethe byddwn ni’n taclo, byddan nhw’n hollol amrywiol mwy na thebyg.

“Bydd pobol yn gallu mynd â’r syniadau ‘da nhw a gwneud rhywbeth ymarferol yn eu cymunedau.”

Rhwystredigaethau

Yn y cyfarfod diwethaf, rhyw bythefnos yn ôl, roedd rhyw 20 o bobol yno yn amrywio o 17 oed i rai dros eu 60au, ac mae disgwyl nifer debyg heno hefyd.

Cafodd llawer o bryderon eu lleisio yn y cyfarfod hwnnw, meddai Lowri Fron, ynglŷn â’r “rhwystredigaeth bod pobol heb wneud mwy i drafod (y refferendwm) yn ein cymunedau.”

“Roedd rhwystredigaeth gyda’r cyfryngau canolog hefyd a gyda’r math o negeseuon sydd wedi ennill eu ffordd.”

Yn ôl Lowri Fron y bwriad yw troi’r rhwystredigaeth honno yn rhywbeth cadarnhaol dros gymunedau cefn gwlad.

Bydd y cyfarfod nos Fawrth, 26 Gorffennaf am 7:30 yn Y Lolfa, Theatr Felin-fach. Mae croeso i bawb ymuno.