Syr John Meurig Thomas (Llun: O wefan Prifysgol Caergrawnt)
Fe fydd gwyddonydd sy’n wreiddiol o Gwm Gwendraeth yn cael ei anrhydeddu â gwobr y Fedal Frenhinol 2016 am ei gyfraniad arloesol i gemeg catalytig.

Yn wreiddiol o Lanelli, daeth Syr John Meurig Thomas yn Athro ar Gemeg Ffisegol ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Mae’n derbyn y wobr hon am ei gyfraniad i gatalyddion heterogenaidd un safle sydd wedi effeithio’n fawr ar gemeg gwyrdd, technoleg lân a chynaliadwyedd.

Yn ogystal â’r fedal, fe fydd yn derbyn rhodd o £10,000 yn seremoni wobrau’r Gymdeithas Frenhinol yn yr hydref eleni.

Y medalau

Mae tair Medal Frenhinol yn cael eu dyfarnu bob blwyddyn gan y Frenhines ar argymhelliad Cyngor y Gymdeithas.

Maent yn cael eu dyfarnu am gyfraniadau arbennig i wyddorau ffisegol, biolegol a’r gwyddorau cymhwysol.

Deiliaid y ddwy fedal arall eleni ydy’r Athro Elizabeth Robertson am ei gwaith embryoleg a’r Athro John Goodby am ei ddarganfyddiadau o ffurfiau a deunyddiau newydd gan gynnwys crisialau hylif cirol.