Ymgyrchwyr iaith yn meddainnu swyddfeydd Cymwysterau Cymru Llun: Cymdeithas yr Iaith
Mae ymgyrchwyr iaith wedi meddiannu swyddfeydd y corff sy’n gyfrifol am reoleiddio’r system gymwysterau addysg yng Nghymru.

Daw hyn oherwydd penderfyniad y corff Cymwysterau Cymru i barhau i ddysgu Cymraeg Ail iaith i blant yn hytrach na symud at un cymhwyster Cymraeg i bob disgybl.

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, dywed Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker, fod y corff am gadw’r cymhwyster Cymraeg Ail Iaith.

‘Amddifadu cenhedlaeth o blant’

“Mae’r penderfyniad yma yn mynd i amddifadu cenhedlaeth arall o blant o’r Gymraeg,” meddai Toni Schiavone ar ran Cymdeithas yr Iaith.

O ganlyniad, mae rhai o aelodau’r Gymdeithas wedi meddiannu swyddfeydd y sefydliad sydd yng Nghasnewydd gan alw ar yr Ysgrifennydd Addysg i wyrdroi eu penderfyniad.

Mae’r gymdeithas yn tynnu sylw at adroddiad yr Athro Sioned Davies dair blynedd yn ôl oedd yn galw am gael gwared â’r cysyniad o ddysgu’r Gymraeg fel ‘ail iaith’ gan symud at un continwwm o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn gynyddol ym mhob ysgol,

Yn ogystal, fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones gymeradwyo’r cysyniad y llynedd.

‘Anghredadwy’

Ychwanegodd Toni Schiavone, “mae’n anghredadwy eu bod nhw’n gallu anwybyddu teimladau cryf cannoedd o bobl wnaeth ymateb i’r ymgynghoriad.”

“Nid oes modd dileu Cymraeg Ail Iaith ar yr un llaw a diwygio’r cymhwyster ‘Cymraeg Ail Iaith’ ar y llaw arall. Naill ai eich bod yn ei ddileu, neu dydych chi ddim – mae mor syml â hynny,” meddai.

“Pryderwn yn fawr y gwelwn, yn y pendraw, barhau â chysyniad Cymraeg ail iaith. Mae hynny’n ddedfryd oes i 80% o’n pobl ifanc a fydd heb y Gymraeg am eu holl fywyd.”

Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn cyfarfod a Kirsty Williams ddydd Iau i drafod y mater.

‘Cwricwlwm newydd’

Dywedodd llefarydd ar ran Cymwysterau Cymru: “Yn rhan o ymgynghoriad eang mewn perthynas â’r gwaith o ddiwygio nifer o gymwysterau TGAU a chymwysterau Safon Uwch, rydym wedi ymgysylltu â Chymdeithas yr Iaith ynglŷn â’r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith.

“Nododd adroddiad gan yr Athro Sioned Davies yn 2013 yr angen i ddiwygio’r modd o addysgu’r Gymraeg mewn ysgolion a cholegau. Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried hyn yn rhan o’i gwaith o ddiwygio’r cwricwlwm.

“Ond nid yw’r cwricwlwm yn bodoli eto, ac ni fydd yn dod i fodolaeth am ychydig o flynyddoedd.

“Bu i ni benderfynu mai’r modd gorau o sicrhau lles dysgwyr fyddai diwygio’r cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith presennol ar ôl i’r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno.

“Ar ôl i’r cwricwlwm newydd gael ei gytuno, caiff rhaglen diwygio cymwysterau ei sefydlu. Bydd hyn yn cynnwys y gwaith o adolygu a diwygio cymwysterau Cymraeg.

“Rydym wedi ymgynghori’n eang fel rhan o’r rhaglen ddiwygio bresennol.”