Owen Smith Llun: Andrew Matthews/PA Wire
Mae Owen Smith wedi codi cwestiynau ynglŷn â gwladgarwch Jeremy Corbyn, gan awgrymu nad yw hynny’n “rhan o’i wneuthuriad.”

Dywedodd Aelod Seneddol Pontypridd, sy’n ymgeisio am arweinyddiaeth y blaid Lafur, nad yw gwleidyddiaeth “metropolitan” Jeremy Corbyn yn unol â thraddodiadau Llafur o ran hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Daw ei sylwadau wedi iddo awgrymu fod y cyhoedd wedi colli hyder ym mharodrwydd y blaid Lafur i gymryd mesurau diogelwch “o ddifrif.”

‘O ddifrif am ddiogelwch’

Mae Owen Smith eisoes wedi dweud, pe byddai’n dod yn Brif Weinidog, y byddai’n barod i gwrdd â thargedau Nato a gwario 2% o’r GDP ar amddiffyn, adnewyddu Trident ac y byddai’n barod i lansio cyrchoedd niwclear.

Dywedodd: “Un o’r gwendidau sydd gennym yn ddiweddar yw bod pobl yn poeni nad yw Llafur o ddifrif ynglŷn â diogelwch.”

Cyfeiriodd at Jeremy Corbyn gan ddweud fod ganddo “agwedd wahanol at rai o’r pethau yna.”

“Dw i’n meddwl nad yw Jeremy, i ddweud y gwir,  yn deall yn llwyr weithiau’r ffordd mae gan bobl ymdeimlad cryf o le, weithiau ceidwadol yn gymdeithasol, a’r ymdeimlad o ble maen nhw’n dod.”

“Dw i’n amau fod gan Jeremy ymdeimlad mwy metropolitan na hynny, a dw i ddim yn meddwl fod hynny’n ganolog i’r traddodiad Llafur,” meddai.

Her gyfreithiol

Mae disgwyl i her gyfreithiol gael ei chyflwyno i’r Uchel Lys yn Llundain heddiw i herio lle Jeremy Corbyn yn yr ymgyrch i ddod yn arweinydd y blaid Lafur.

Mae disgwyl i Michael Foster, cyn ymgeisydd seneddol, gyflwyno her i’r penderfyniad i ganiatáu enw Jeremy Corbyn i ymddangos ar y papur pleidleisio yn awtomatig, yn dilyn penderfyniad gan y Pwyllgor Gweithredol Cenedlaethol.

Roedd rhaid i unrhyw ymgeisydd arall sicrhau o leiaf 50 o enwebiadau gan ASau ac ASEau.

Mae disgwyl i ganlyniad arweinyddiaeth y blaid Lafur gael ei gyhoeddi mewn cynhadledd ar 24 Medi.