Cafodd corff dyn  40 oed ei ddarganfod bore ‘ma ar lwybr seiclo Taith Taf rhwng Abercynon a Chilfynydd, ger Pontypridd.

Fe wnaeth Heddlu De Cymru gadarnhau eu bod wedi cael galwad am tua 8:30 bore dydd Llun yn dilyn adroddiadau am farwolaeth sydyn dyn.

Yn ôl yr heddlu, does dim amgylchiadau amheus i’w farwolaeth ac mae ei deulu agos wedi cael gwybod.

Dydy’r dyn heb gael ei adnabod yn ffurfiol eto, ond fydd hynny’n digwydd maes o law.

Mae’r heddlu yn paratoi ffeil i’r crwner i’w hysbysu am y farwolaeth.