Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yng Ngheredigion brynhawn ddoe.

Cafodd dynes ei chludo i’r ysbyty mewn hofrennydd, lle mae’n dioddef o anafiadau difrifol.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng car Volkswagen Polo coch a Vauxhall Zafira ar yr A487 rhwng Llanarth ac Aberaeron tua 3.45yp dydd Sul, Gorffennaf 24.

Cafodd pedwar arall eu cludo i’r ysbyty, cyn eu rhyddau’n ddiweddarach.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad gysylltu ag Uned Heddlua’r Ffyrdd ar 101.