Yr Arglwydd Peter Hain
Mae cyn-ysgrifennydd Gwladol Cymru, yr Arglwydd Peter Hain, wedi dweud nad yw am weld “rhwygiadau pellach yn y blaid Lafur.”

Daw ei sylwadau yn dilyn cyfweliad ar raglen BBC Radio Wales, Sunday Supplement dros y penwythnos, lle awgrymodd Leighton Andrews y gallai “Llafur Cymru dorri’r rhydd o’r blaid Brydeinig.”

Aeth Leighton Andrews yn ei flaen i awgrymu y gallai ailethol Jeremy Corbyn fel arweinydd effeithio’n drwm ar Lafur yn yr etholiad cyffredinol nesaf ynghyd ag effeithio ar ffyniant Llafur Cymru.

O ganlyniad, ychwanegodd y cyn-Weinidog i Lywodraeth Cymru na fyddai’n ‘diystyried opsiynau’ i Lafur Cymru ymwahanu o’r blaid genedlaethol.

‘Arweinydd camweithredol’

Er hyn, dywedodd Peter Hain wrth golwg360 y bore yma, “rwy’n cytuno gyda llawer o’r hyn mae Leighton yn ei ddweud, ond dydw i ddim am weld Llafur yn rhwygo oddi wrth ei gilydd, a dyna pam mae angen arweinydd newydd arnom.”

“Gwraidd y broblem yw bod gennym arweinydd camweithredol ar gyfer y DU, a dyna’r broblem sy’n tynnu Llafur Cymru i lawr hefyd,” meddai.

“Rwy’n cytuno â’i sylwadau felly,” meddai Peter Hain wrth golwg360.

 

“Mae angen arweinydd newydd arnom, ond nid yw rhwygo’r blaid yn opsiwn.”

“Yn hanesyddol, dyw rhwygiadau erioed wedi gweithio,” ychwanegodd.

Mae Peter Hain a Leighton Andrews ill dau wedi datgan eu cefnogaeth i ethol AS Pontypridd Owen Smith fel yr arweinydd nesaf, pan gaiff etholiad arweinydd Llafur ei gynnal ddiwedd mis Medi.