Mae ymgyrchwyr iaith yn ystyried herio penderfyniad Llywodraeth Cymru i eithrio meddygfeydd a gwasanaethau gofal sylfaenol rhag ymrwymo i ddarparu gwasanaeth Cymraeg.

Ac mewn llythyr at Weinidog y Gymraeg, Alun Davies, mae Cymdeithas yr Iaith yn rhybuddio y gallai fod her gyfreithiol i’w penderfyniad.

“Yn lle cryfhau hawliau pobl i’r Gymraeg wrth ymwneud â’u meddygfa leol a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill, mae’ch rheoliadau yn gadael pobl ar lawr gwlad mewn sefyllfa hollol anobeithiol pan ddaw hi at ddelio â rheng flaen y gwasanaeth iechyd,” meddai Manon Elin ar ran Cymdeithas yr Iaith.

‘Diffyg darpariaeth’

Esbonia fod adroddiadau Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, yn amlygu “diffyg darpariaeth” o ran y Gymraeg mewn meddygfeydd a gwasanaethau gofal sylfaenol a bod hynny yn eu “brawychu.”

Roedd ei hadroddiad felly’n nodi ei bod yn “hanfodol” i’r gwasanaethau ddarparu gwasanaeth yn y Gymraeg.

“Mae pobl yn defnyddio’r gwasanaeth iechyd pan maent ar eu mwyaf bregus, felly mae’n hanfodol bwysig eu bod yn medru cyfathrebu yn yr iaith maent yn teimlo’n fwyaf cyfforddus yn ei siarad,” meddai Manon Elin.

Ymgynghoriad

Mae’r Gymdeithas hefyd yn annog pobl i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru o ran y safonau iaith sy’n cau ar 14 Hydref 2016.

“Mae’r ymgynghoriad yn un a fydd yn effeithio ar filoedd ar filoedd o bobl, yn eu plith y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas,” meddai Manon Elin.

“Byddwn yn ystyried pob opsiwn sydd gyda ni felly, er mwyn sicrhau bod gan bobl hawliau cadarn a chyflawn yn y maes hollbwysig hwn.”

‘Croesawu ymatebion’

Mewn ymateb i rybudd Cymdeithas yr Iaith heddiw, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 14 Hydref, ac rydym yn croesawu pob ymateb.”