Mae dyn a syrthiodd 60 troedfedd oddi ar glogwyn yn Rhosili, Penrhyn Gwyr, wedi cael ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd.

Roedd yr ymwelwr, a oedd ar ei wyliau yn yr ardal, wedi syrthio i’r môr toc wedi 7.40yh neithiwr, ac fe gafodd ei achub o’r tonnau gan fad achub, cyn cael ei gario wedyn gan hofrennydd gwylwyr y glannau i’r ysbyty.

Mae’n dal i dderbyn triniaeth i fân anafiadau ac effeithiau’r oerfel.