Sian Reeves, Catrin Beard ac Emyr Lewis o flaen Ty'r Ysgol, Rhyd Ddu
Mae ail-agor cartre’ un o feirdd enwoca’ Cymru yn bwysicach nag erioed wedi i Gymru bleidleisio i ddod allan o Ewrop, meddai perthynas i’r bardd.

Mewn cyfarfod yn Nhy’r Ysgol, Rhyd Ddu, heddiw i ail-agor cartre’ plentyndod T H Parry-Williams, doedd ei or-nai ddim yn gallu gwahanu’r digwyddiad oddi wrth yr holl ymwelwyr o Ewrop fyddai wedi bod yno dros y blynyddoedd yn trafod iaith a llenyddiaeth.

“I fan hyn, mi fyddai nifer o arbenigwyr ieithoedd Ewrop wedi dod ar ymweliad, i weld fy hen-daid (tad T H Parry-Williams),” meddai’r cyfreithiwr a’r bardd, Emyr Lewis.

Roedd ef a’i chwiorydd, Catrin Beard a Sian Reeves, yn rhan o ddigwyddiad a drefnwyd gan Antur Nantlle, y fenter sydd bellach yn rhedeg y safle fel canolfan awyr agored a llety. Yn Nhy’r Ysgol y ganwyd eu nain, Eurwen, chwaer ieuengaf T H Parry-Williams.

“Fedra’ i ddim peidio meddwl am hynny, a pha mor bwysig ydi bod y lle yma’n rhoi croeso i bobol, ychydig wythnosau’n unig wedi i Gymru bleidleisio dros adael Ewrop,” meddai Emyr Lewis wedyn. “Trwy drugaredd, wnaeth yr ardal yma (Gwynedd) ddim pleidleisio allan, ond mae yna beryg i bobol allan yna feddwl ein bod ni ddim yn eu lecio nhw… a dydi hynny ddim yn wir.

“Felly, efallai bod Ynys Brydain am dorri cysylltiadau economaidd efo Ewrop, ond mae’n bwysig fod y cysylltiadau eraill, y cysylltiadau diwylliannol, yn para.”

Mae Ty’r Ysgol yn gallu cynnig gwelyau i 31 o bobol, ac mae’n cael ei llogi allan fesul noson. Am flynyddoedd, fe fu dan reolaeth Cyngor Gwynedd, a’r lle’n croesawu plant a phobol ifanc ar gyrsiau llenyddol.