Pencadlys Cyngor Sir Gâr
Mae bywydau pobol mewn perygl gan fod fandaliaid yn difrodi rhaffau achub bywyd a bwiau achub sy’n cael eu rhoi yn ymyl pyllau a dyfrffyrdd o amgylch sir Gaerfyrddin, yn ôl neges sydd wedi ei hanfon allan gan yr awdurdod lleol.
Gan fod gwyliau’r haf wedi dechrau a’r tywydd yn twymo, mae pobl yn mwynhau treulio amser ger pyllau, llynnoedd ac afonydd, ac mae Tîm Cynnal a Chadw Tiroedd y Cyngor yn bryderus ynghylch offer achub bywyd yn cael ei ddifrodi neu ei waredu’n gyfan gwbl.
“Mae staff yn cynnal patrolau’n gyson, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae problemau’n digwydd yn aml, ond mae’r cyhoedd yn cael eu hannog i roi gwybod am unrhyw achosion o fandaliaeth cyn gynted â phosibl,” meddai’r neges.
“Mae achosion wedi digwydd lle mae rhaffau achub bywyd wedi cael eu difrodi, eu tynnu o’u dalwyr a’u taflu i’r dŵr lle na ellir eu cyrraedd, neu eu bod heb fod yno o gwbl.”
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae offer wrth byllau a llynnoedd yn achub bywydau felly plîs peidiwch â’u gwaredu nhw oni bai ei bod hi’n argyfwng. Mae’n gas gen i feddwl beth fyddai’n digwydd pe bai rhywun mewn perygl a bod y rhaff achub bywyd ar goll.
“Erfyniwn ar bawb sy’n chwarae’n agos i ddŵr yr haf hwn i fod yn ddiogel. Peidiwch ag ymyrryd â rhaffau achub bywyd a rhowch wybod am unrhyw rai sydd ar goll.”