Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth, wedi i fachgen 11 oed fynd ar goll o’i gartre’ yn nhre’ Bethesda, Gwynedd.

Yn ôl swyddogion, maen nhw’n chwilio am Iestyn Roberts ers ddoe (dydd Gwener).

Mae disgrifiad ohono yn dweud ei fod yn fachgen pryd golau, tenau o gorffolaeth, a’i fod yn gwisgo trowsus loncian glas a, mwy na thebyg, hwdi o liw du pan welwyd o ddiwetha’.

Dylai unrhyw un sydd wedi’i weld, neu’n gwybod unrhyw beth a allai fod o help i ddod o hyd i Iestyn, ffonio’r heddlu ar y rhif 101.