Santiago de Compostela - mangre pererindod ers dros 1,000 o flynyddoedd
Mae bachgen ysgol wedi marw tra ar daith feics 560 milltir yn Sbaen gyda’i ffrindiau ysgol.

Fe fydd teulu Michael Cura, 16 oed, o Dreforys yn hedfan allan i Sbaen heddiw, lle’r oedd tua 20 o ddisgyblion o Ysgol Babyddol yr Esgob Vaughan yn Abertawe ar daith feicio i ddinas Santiago de Compostela.

Roedd y grwp wedi bod yn beicio ers naw diwrnod, ar ôl gadael Abertawe ar Orffennaf 12, ac yn dod i ddiwedd eu pererindod.

Mae datganiad gan yr ysgol yn dweud fod pawb yno “wedi dychryn gan farwolaeth sydyn y disgybl chweched dosbarth”.