Mae ymgyrchwyr yn erbyn fferm wynt ar Fynydd y Gwair, wedi colli eu brwydr 24 blynedd yn erbyn y datblygiad gan gwmni RWE.

Ddoe, fe benderfynodd Llywodraeth Cymru nad oedd gwrthwynebiad mudiad ymgyrchu SOCME i fferm wynt yno yn ddilys, ac nad ydi Mynydd y Gwair bellach yn cael ei ystyried yn dir comin y gall ffermwyr ei bori a cherddwyr ei gerdded, ond yn hytrach yn dir comin gyda hawliau datblygu arno.

“Mae’r hyn ydyn ni’n ei golli yn anodd iawn i’w dderbyn,” meddai mudiad SOCME mewn datganiad am y penderfyniad. “Mae tirwedd lle mae pobol yn byw ac yn gweithio, wedi’i golli dan dunelli o garreg, concrid a dur… 

“Mae’r drefn o gadw anifeiliaid ar y mynydd yn cael ei cholli,” meddai’r mudiad wedyn, “yn ogystal â’r mwynhad i gerddwyr a’r bywyd gwyllt… ac am beth? Dim ond i gynhyrchu canran fechan iawn o bwer gwynt. Mae’n sgandal.”

Fe gafodd SOCME (Save Our Common Mountain Environment) ei sefydlu yn 2003 i amddiffyn Mynydd y Gwair. Mae’n grwp cymunedol a’i aelodau’n bobol sy’n byw ac yn gweithio o gwmpas Mynydd y Gwair.