Mae Heddlu Dyfed Powys wedi apelio ar bobol i osgoi’r B4302 yn Sir Gaerfyrddin yn dilyn damwain.

Mae’r lon rhwng Llandeilo a Thalyllychau wedi’i chau.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gar am 1.50 y prynhawn yma ac mae’r heddlu’n parhau i fod ar y safle.

Cafodd un dyn ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd ac mae dau ddyn arall hefyd wedi mynd i’r ysbyty.