Gwariant Llywodraeth Cymru wedi'i ddatgelu
Roedd dillad isaf merched ymysg yr £1.4 miliwn a gafodd ei wario gan ddefnyddio 237 o gardiau credyd Llywodraeth Cymru yn 2015/16.

Ond mae’r Llywodraeth yn mynnu mai taliad twyllodrus oedd hwnnw i gwmni Victoria’s Secret.

Mae’r wybodaeth, a gafodd ei datgelu oherwydd cais rhyddid gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig, hefyd yn rhoi dadansoddiad manwl o bob un o’r 12,648 o weithiau y cafodd y cardiau, sydd hefyd yn cael eu galw’n gardiau caffael, eu defnyddio.

Ers  2011, mae £7.5 miliwn wedi cael ei wario ar y cardiau.

Ymysg y gwariant roedd:

  • £103.91 yn Victoria’s Secret, siop dillad isaf crand i ferched
  • £377.31 ar danysgrifiadau iTunes – tanysgrifiad i’r Daily Post
  • £370.70 ar offer hwylio ar gyfer hyfforddiant
  • £1569.10 ar bice ar y maen
  • £ 279.90 yn ToysRUs.

Gwerth am arian

Dywedodd llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Ramsay: “Er ein bod ni’n derbyn bod gan gardiau caffael rôl i’w chwarae wrth leihau’r gost fiwrocrataidd o brosesu hawliadau bach, mae nifer y staff sydd â mynediad iddynt yn parhau i dyfu ac mae rhai o’r hawliadau yn gofyn am esboniad.

“Mae miliynau o bunnoedd yn cael ei wario ar y cardiau hyn ac mae angen i’r cyhoedd fod yn hyderus nad yw’r system yn cael ei chamddefnyddio, a bod y trethdalwr yn cael gwerth am arian.”

Cardiau caffael yn “gyffredin”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod y defnydd o gardiau caffael “yn gyffredin” ar draws holl adrannau’r llywodraeth yn y Deyrnas Unedig.

Ychwanegodd bod popeth sy’n cael ei brynu gan y cardiau yn gorfod cael eu cymeradwyo ac yn cael eu harchwilio’n fewnol yn aml.”