Beth Granville o Gaerdydd yn mynd â'i sioe i siop trin gwallt yng Nghaeredin
Fe fydd sioe gomedi newydd sydd wedi’i selio ar siop trin gwallt yng Nghaerdydd yn teithio i’r ‘Fringe’ yng Nghaeredin eleni.

Mae’r sioe gomedi Foiled wedi’i chyd-ysgrifennu gan Beth Granville o Gaerdydd, sydd wedi ymddangos mewn rhaglenni fel Gavin and Stacey a Stella, a hi sydd hefyd yn chwarae’r brif ran yn y cynhyrchiad.

Dyma’r ail dro i’r gomedïwraig berfformio yn y Fringe, a bydd ei sioe yn cael ei llwyfannu mewn salon trin gwallt go iawn ar Stryd Clerk yng Nghaeredin.

Fe wnaeth Beth Granville ysgrifennu’r sioe yn wreiddiol ar gyfer grŵp theatr lleol yng Nghaerdydd, Dirty Protest, ac mae’n cyffwrdd ar heriau sy’n wynebu llawer o bobol heddiw, yn sgil llymder ariannol.

“Dyw hi ddim yn gomedi wleidyddol ond mae ‘na sylw cymdeithasol ynddi, ar lymder ac ar bobol ifanc yn gorfod byw gyda’u rhieni (heb allu prynu tŷ),” meddai Beth Granville wrth golwg360.

Mae’r sioe yn canolbwyntio ar staff mewn siop trin gwallt yng Nghaerdydd, ‘Bleach for the Stars’, gyda’r rheolwraig Sabrina yn anelu am bethau gwell, a’r cynorthwyydd talentog sy ddim yn cael ei thalu digon, Tanisha.

Mae’r ddrama gomedi hefyd yn cynnwys cymeriad o’r enw Richie, actor di-waith, sy’n cyrraedd am steil gwallt newydd a fydd yn achub ei yrfa.

Cyffesu wrth dorri gwallt

“Daeth y syniad o dreulio misoedd o fy mywyd mewn siopau trin gwallt, ac ry’ch chi wastad yn gadael gyda stori,” meddai Beth Granville.

“Maen nhw’n llefydd gwych, maen nhw wrth wraidd y gymuned ac mae gan bob tref un, ac maen nhw’n llawn sgyrsiau bywiog.

“Mae e’n lle delfrydol ar gyfer lleoli comedi. Mae’n anhygoel mor agored ry’ch chi mewn siop trin gwallt. Mae cymaint o bobol trin gwallt yn dweud eu bod nhw’n teimlo fel therapydd.

“Dw i fy hun yn dweud wrth bobol trin gwallt pethau dw i heb hyd yn oed ddweud wrth fy ffrindiau!”

Dywed ei bod yn cael ei hysbrydoli a’i dylanwadu gan “gomedi gwych Cymreig” ond nad oes ‘na lawer sy’n debyg rhwng y ddrama hon a chynyrchiadau fel Gavin and Stacey a Stella.

Perfformio yn y Fringe

Mae Beth Granville yn edrych ymlaen at berfformio am fis yn y Fringe, gan ddweud ei fod yn rhywbeth “prin” heddiw i gomedïwr allu gwneud yr hyn maen nhw’n dwlu gwneud bob dydd.

“Mae Caeredin yn rhoi’r cyfle i chi wneud hynny. Mae’n fis anodd ond yn llawer o hwyl, ac rydych yn dysgu cymaint o weld sioeau eraill.

Bydd Foiled yn cael ei pherfformio rhwng 5 a 29 Awst yn Fringe Caeredin eleni, ac mae’r gomedïwraig yn gobeithio y bydd perfformiadau’n digwydd yng Nghymru yn yr hydref.

Cyfweliad: Mared Ifan