Caryl Lewis yn derbyn y wobr gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies
Y Bwthyn gan Caryl Lewis yw prif enillydd Cymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mewn seremoni ym Merthyr Tudful heno.

Caryl Lewis  sydd hefyd wedi ennill Gwobr Barn y Bobl Golwg360.

Mae’n sicrhau cyfanswm o £4,000 i’r awdur yn ogystal â thlws arbennig wedi’i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones. Cafodd y brif wobr ei chyflwyno i Caryl Lewis gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies.

Mae Y Bwthyn, sy’n cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa, yn cael ei disgrifio fel nofel gynnil, delynegol, a’r mynydd a’i dymhorau yn gymeriadau amlwg ynddi.

Dyma’r eildro i Caryl Lewis ennill y teitl Llyfr y Flwyddyn: cipiodd y brif wobr yn 2005 gyda’i nofel boblogaidd Martha Jac a Sianco (Y Lolfa).

Enillydd y brif wobr yn Saesneg yw Thomas Morris  gyda’i gyfrol gyntaf o straeon byrion We Don’t Know What We’re Doing (Faber & Faber). Wedi ei lleoli yng Nghaerffili, mae’r gyfrol hon yn cynnig cipolwg ar fywydau rhai o’r cymeriadau dryslyd ac unig sy’n byw yng nghysgod y castell. Fe hefyd ddaeth i’r brig yng nghategori Ffuglen Saesneg Ymddiriedolaeth Rhys Davies.

Llwyddodd Thomas Morris i sicrhau ail hat-trick y noson wrth iddo gipio People’s Choice Award Wales Arts Review yn ogystal.


Y Prifardd Mererid Hopwood yn derbyn ei gwobr
Enillydd Gwobr Farddoniaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth yw’r Prifardd Mererid Hopwood gyda’i chyfrol gyntaf o gerddi, Nes Draw (Gwasg Gomer).

Philip Gross a enillodd Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias 2016 gyda’i gasgliad Love Songs of Carbon (Bloodaxe Books).

Y gyfrol fuddugol yng Ngwobr Ffeithiol Greadigol Y Brifysgol Agored yng Nghymru yw Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr (Y Lolfa) gan Gruffydd Aled Williams.

Mae’r gyfrol hon, sy’n nodi chwechanmlwyddiant tebygol marw Owain Glyndŵr, yn ymdebygu i stori dditectif sy’n arwain y darllenydd ar daith i ymchwilio ei ddyddiau olaf, man ei farwolaeth a mannau posib ei gladdu.

Ac enillydd Gwobr Ffeithiol Greadigol Saesneg y Brifysgol Agored yng Nghymru yw Jasmine Donahaye gyda’i chofiant Losing Israel (Seren), ble mae’r awdur yn olrhain hanes ei theulu a’u perthynas gydag Israel.

Y beirniaid

Beirniaid y llyfrau Cymraeg eleni yw’r awdur Lleucu Roberts; y bardd a darlithydd Llion Pryderi Roberts, a chyflwynydd BBC Radio Cymru a Radio 1 Huw Stephens.

Dywedodd Huw Stephens ar ran y panel beirniadu: “Doedd hi ddim yn hawdd penderfynu ar enillwyr y tri chategori, ond roedd hi’n bleser mawr cael darllen a rhannu meddyliau ar y llyfrau buddugol.

“Mae’r gyfrol fuddugol eleni yn cynnig golwg dreiddgar ar sefyllfa annisgwyl, mewn modd cywrain, cynnil a phendant. Roedd y tri ohonom yn teimlo bod crefft ddiymwad yr awdur yn llwyddo i gonsurio byd cyfoethog a chymhleth gerbron y darllenydd, a gwneud i’r astrus a’r heriol ymddangos mor rhyfeddol o rhwydd – campwaith yn wir.”

Beirniaid y llyfrau Saesneg eleni yw’r Athro Tony Brown o Brifysgol Bangor, golygydd gyda The Bookseller Caroline Sanderson, a Chyfarwyddwr Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru Justin Albert.

Cafodd yr enillwyr eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo yn The Redhouse, Merthyr Tudful.

‘Gwledd yn eich disgwyl’

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Llongyfarchiadau gwresog i holl enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016.

“Cafwyd noson arbennig yma ym Merthyr a braint oedd cael dathlu talentau llenyddol Cymru yng nghwmni’r awduron a’u teuluoedd. Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, ewch ati i ddarllen y llyfrau; mae gwledd yn eich disgwyl rhwng y cloriau.”