Mae cynrychiolwyr Undeb Amaethwyr Cymru wedi cyfarfod David Jones AS, y Gweinidog dros Adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Amaethwyr Cymru bod y cyfarfod, ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd, wedi bod yn un “addysgiadol ac eang” am y materion a’r pryderon sy’n effeithio’r sector amaethyddol yn dilyn y bleidlais i adael yr UE.

Cyllid

Daeth y cyfarfod wedi i Weinidog Amaeth y DU, George Eustice ddweud nad oes modd sicrhau’r un faint o gyllid i amaethwyr yn y dyfodol o’i gymharu â budd-daliadau’r Undeb Ewropeaidd.

Ar hyn o bryd, mae ffermwyr Cymru’n derbyn £250 miliwn y flwyddyn Dan Gynllun Amaethyddol Cyffredinol yr UE.

 

Cyfnod heriol a phryderus

Dywedodd Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, bod ffermwyr yn wynebu

“cyfnod heriol a phryderus” ond bod  gwybod bod rhywun sydd â dealltwriaeth o “amaethyddiaeth yng Nghymru” yn rhan o’r trafodaethau i adael yn “galonogol”.

Mae David Jones yn AS dros Orllewin Clwyd.

Meddai Glyn Roberts: “Dyma oedd ei gyfarfod cyntaf gydag unrhyw sefydliad allanol ac yn dangos ymrwymiad i sicrhau nad yw amaethyddiaeth yn dioddef yn ystod proses Brexit.

“Rydym yn gwybod ein bod yn wynebu adegau heriol a phryderus ond mae gwybod bod rhywun wrth wraidd y broses gynllunio sydd â dealltwriaeth fawr o Gymru ac amaethyddiaeth Cymru yn galonogol.”

Ychwanegodd Glyn Roberts y byddai’r Undeb yn cyfarfod eto â David Jones ym mis Medi.