Emma Baum, Llun: Heddlu Gogledd Cymru
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhyddhau rhagor o fanylion am lofruddiaeth dynes ifanc ym Mhenygroes, Caernarfon ddydd Llun.

Dywed yr heddlu bod Emma Baum, 22, mam i fachgen dwyflwydd oed, wedi marw o ganlyniad i anafiadau difrifol i’w phen yn dilyn ymosodiad.

Cafwyd hyd i’w chorff yng ngardd gefn ei chartref  yn Ffordd Llwyndu, Penygroes fore dydd Llun, 18 Gorffennaf.

Yn y cyfamser mae dynes a gafodd ei harestio mewn cysylltiad â’r ymchwiliad i lofruddiaeth Emma Baum wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.

Dywed Heddlu’r Gogledd ei bod yn parhau i fod dan ymchwiliad ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynorthwyo troseddwr.

Mae dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Emma Baum yn parhau i gael ei gadw yn y ddalfa ac mae’r heddlu wedi cael caniatad ynadon i’w holi am ragor o amser.

‘Anafiadau difrifol’

Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Iestyn Davies: “Bu farw Emma o ganlyniad i anafiadau difrifol i’w phen yn dilyn ymosodiad. Ni allaf ar hyn o bryd ryddhau rhagor o fanylion am yr anafiadau ond credaf y byddai gwaed wedi bod ar yr ymosodwr.

“Mae yna bosibilrwydd cryf bod yr ymosodwr wedi cael gwared â dillad ar ôl yr ymosodiad a hoffwn apelio ar unrhyw un sydd wedi dod o hyd i ddillad sydd wedi cael eu gadael i gysylltu â ni.

“Mae’n amlwg bod eitem â llafn wedi’i defnyddio ac eto efallai bod yr ymosodwr wedi ceisio cael gwared a’r eitem hon.  Ni allaf ddarparu unrhyw fanylion am y math o eitem â llafn a ddefnyddiwyd.

“Mae sawl person wedi dweud wrthym eu bod wedi gweld person yn rhedeg i gefn tŷ Emma.  Credaf mai dyn oedd y person hwn a’i fod yn gwisgo top â chwfl tywyll, o bosib llwyd a throwsus tracwisg tywyll.  Mi wnaeth y person yma redeg ar hyd cefn Ffordd Llwyndu i gyfeiriad Ffordd y Brenin.

“Roedd hyn am oddeutu 4yb (18 Gorffennaf) ond credaf fod y person a oedd yn gyfrifol am farwolaeth Emma wedi bod yng nghyffiniau Ffordd Llwyndu o tua 2.30yb ymlaen.  Hoffwn unwaith eto ofyn i unrhyw un a welodd rywun sy’n gweddu â’r disgrifiad yma i ddod ymlaen.”

Dylai  unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad ffonio 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111 a dyfynnu’r cyfeirnod U105426.

Gallwch hefyd gysylltu â’r ystafell reoli yn uniongyrchol drwy’r sgwrs we fyw.