Bannau Brycheiniog
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi rhoi addewid i gynnal ymchwiliad llawn ar ôl i filwr 26 oed farw yn ystod ymarferiad ym Mannau Brycheiniog.

Roedd Joshua Hoole o Ecclefechan ger Lockerbie yn yr Alban, yn aelod o gatrawd y Reifflau ac yn cymryd rhan mewn ymarferiad i ddod yn sarjant pan fu farw ddydd Mawrth.

Roedd wedi marw ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn eleni, gyda’r tymheredd wedi codi dros 30 gradd selsiws.

Mae’n debyg ei fod wedi marw am tua 6:30 y bore hwnnw.

Bu farw tri milwr, Edward Maher, Craig Roberts a James Dunsby, mewn ymarferiad milwrol ym Mannau Brycheiniog yn 2013, ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn honno hefyd.

Daeth crwner i’r casgliad bod esgeulustod yn rhannol gyfrifol am eu marwolaethau.

Galw am atebion

Arweiniodd hyn at gyhoeddi adroddiad dri mis yn ôl yn galw ar y Weinyddiaeth Amddiffyn i fod yn gyfrifol am farwolaethau milwyr yn ystod ymarferiadau milwrol.

Mae teulu Joshua Hoole wedi galw am atebion, gyda’i dad-cu, John Craig, yn ei ddisgrifio fel dyn “hynod o ffit.”

Mae’r Gweinidog Amddiffyn, Harriett Baldwin, wedi addo ymchwiliad llawn, gan fynegi ei thristwch dros y farwolaeth mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Amddiffyn yn San Steffan.

Roedd y milwr wedi’i leoli yng Nghatraeth yng Ngogledd Swydd Efrog, ac roedd e eisoes wedi bod i Afghanistan ddwywaith ac Irac.

Ers 2000, mae 135 o bersonél y fyddin wedi marw wrth ymarfer.

Mae disgwyl i’r ymarferiad nesaf ym Mannau Brycheiniog gael ei gynnal ym mis Awst.