Milwyr yn ymarfer ym Mannau Brycheiniog
Mae’r milwr 26 oed fu farw yn ystod ymarferiad ym Mannau Brycheiniog wedi cael ei ddisgrifio fel “ŵyr hyfryd” a “bachgen hynod o ffit” gan ei deulu.

Roedd Joshua Hoole o Ecclefechan ger Lockerbie yn yr Alban yn aelod o gatrawd y Reifflau ac yn cymryd rhan mewn ymarferiad i ddod yn sarjant pan fu farw ddydd Mawrth.

Nid oes gwybodaeth ar hyn o bryd ynglŷn ag achos ei farwolaeth.

‘Hynod o ffit’

Dywedodd ei dad-cu, John Craig: “Roedd e’n ŵyr hyfryd.

“Roedd e’n filwr ymroddedig. Roedd e bob amser am fod yn ‘top dog’. Roedd e’n fachgen hynod o ffit, roedd e’n cadw’n ffit iawn.”

Dywedodd fod ei ŵyr wedi marw oddeutu 6.30 y bore ar y diwrnod mwyaf twym eleni, gyda’r tymheredd wedi codi dros 30 gradd selsiws.

Roedd y milwr wedi’i leoli yng Nghatraeth yng Ngogledd Swydd Efrog, ac roedd e eisoes wedi bod i Afghanistan dwywaith ac Irac.

Ychwanegodd ei dad-cu: “Roedd e’n ymweld â fi’n gyson, bob cyfle gâi e. Es i â photel whisgi iddo fe ar 12 Orffennaf ar gyfer ei ben-blwydd yn 26.”

‘Ymchwiliad llawn’

Dywedodd y Gweinidog Amddiffyn, Harriett Baldwin y byddai ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal.

Mynegodd ei thristwch yn ystod cyfarfod o’r Pwyllgor Amddiffyn yn San Steffan.

Mae disgwyl i’r ymarferiad nesaf ym Mannau Brycheiniog gael ei gynnal ym mis Awst.

Marwolaethau wrth ymarfer

Daw marwolaeth y milwr dri mis ar ôl i’r Pwyllgor Amddiffyn gyhoeddi adroddiad yn galw ar y Weinyddiaeth Amddiffyn i fod yn gyfrifol am farwolaethau milwyr yn ystod ymarferiadau milwrol.

Mae 135 o bersonél y fyddin wedi marw wth ymarfer ers 2000.

Dair blynedd yn ôl, bu farw tri milwr – Edward Maher, Craig Roberts a James Dunsby – yn dilyn ymarferiad yn y Bannau.

Daeth crwner i’r casgliad bod esgeulustod yn rhannol gyfrifol am eu marwolaethau.