Emma Baum, Llun: Heddlu Gogledd Cymru
Mae’r dyn a dynes sydd wedi’u harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth mam ifanc ym Mhenygroes, Caernarfon, yn parhau i gael eu holi gan dditectifs.

Cafwyd hyd i gorff Emma Baum, 22, mewn tŷ yn y pentref bore dydd Llun, 18 Gorffennaf, am tua 10:45yb

Mae’r ditectif sy’n arwain yr ymchwiliad wedi gwneud apêl o’r newydd ynglyn a char du Ford Fiesta.

Mae’r heddlu yn credu bod y car wedi teithio o bentref Trefor, ym Mhen Llŷn a Phen-y-groes rhwng 2 a 2:30 bore dydd Llun ac wedi mynd yn ôl i ardal Trefor rhwng 4 a 4:30 y bore.

“Dw i’n credu y byddai’r car hwn wedi bod yn gyrru drwy Benygroes rhwng yr amseroedd hyn,” meddai’r Ditectif Uwch-arolygydd, Iestyn Davies.

“Gallai rhywun wedi’i weld naill ai yn cael ei yrru neu wedi’i barcio yn y pentref. Dw i’n apelio ar unrhyw un sydd wedi gweld car tebyg i’r un sy’n cael ei ddisgrifio i gysylltu â ni.”

Teyrnged i “fam a merch annwyl”

Mae teulu Emma Baum wedi talu teyrnged iddi heddiw, gyda’i mam, Amanda, yn dweud mai hi oedd y “fam orau” i’w mab ifanc, Steffan.

“Hi oedd fy ffrind gorau ac yn ferch, mam, partner a chwaer annwyl, a fyddai’n gwneud unrhyw beth i unrhyw un,” meddai.

“Dwi ar goll hebddi a fydd hi o hyd yn ein meddyliau ac yn ein gweddïau. Bydd hi o hyd yn ein calonnau am byth. Caru ti Emma. Bob amser ac am byth.”

 

50 o swyddogion yn ymchwilio

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud ei fod wedi cael ‘cymorth positif’ gan y cyhoedd a bod 50 o swyddogion ynghlwm â’r ymchwiliad.

Maen nhw’n cynnwys swyddogion sy’n cynnal archwiliadau fforensig, rhai sy’n diogelu’r safle a rhai sy’n mynd o dŷ i dŷ yn gwneud ymholiadau.

“Mae patrolau ychwanegol ym Mhenygroes i helpu i dawelu meddyliau’r gymuned,” ychwanegodd Iestyn Davies.

“Rydym yn cysylltu â theulu Emma yn gyson yn ystod y cyfnod trawmatig a phoenus hwn, a dw i’n gwybod ei fod yn gysur cael y gefnogaeth sydd wedi’i rhoi iddyn nhw.”

Mae gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth ynghylch y digwyddiad hwn i gysylltu â’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau yn anhysbys ar 0800 555 111, gan ddyfynnu U105426.

Gallwch hefyd gysylltu â’r ystafell reoli yn uniongyrchol drwy’r sgwrs we fyw.