JO Roberts a'i ferch Nia Roberts yn derbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor wythnos ddiwethaf
Mae’r actor a’r storïwr J.O. Roberts o Fôn wedi marw heddiw yn 84 oed.

Mae’r teulu hefyd yn galaru yn dilyn marwolaeth ei ferch yng nghyfraith, sylfaenydd Côrdydd a’r arweinyddes Sioned James, yn 41 oed.

Roedd J.O. Roberts yn adnabyddus am ei berfformiadau mewn nifer o ddramâu, ar deledu ac ar lwyfan, gan gynnwys ei bortread o Owain Glyndŵr yn y ffilm deledu ym 1983.

Bu hefyd yn chwarae rôl ysbïwr yn y gyfres Cysgodion Gdansk yn 1987, yn un o brif actorion Mae Hi’n Wyllt Mr Borrow yn 1984 ac yn y gyfres hiwmor cefn gwlad Hufen a Moch Bach rhwng 1983 a 1988.

Roedd hefyd wedi actio yn ffilm Branwen yn 1994 a chwarae rhan Harri Vaughan yn y cyfresi Lleifior yn 1993 a 1995.

Roedd yn dad i’r cyflwynwyr teledu, Nia Roberts a Gareth Roberts. Fe fu J.O. Roberts a’i ferch Nia Roberts yn derbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor mewn seremoni wythnos yn ol.

Teyrnged

Mae cadeirydd Awdurdod S4C wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud yr oedd “yn edrych ac yn swnio fel seren.”

“J.O. Roberts oedd y llais oedd yn cynrychioli darlledu safonol Cymraeg am gymaint o flynyddoedd ar y teledu a’r radio,” meddai Huw Jones.

“Roedd o’n pontio’r traddodiad adrodd gyda’r grefft o actio proffesiynol ac yn cynrychioli’r gorau o’r ddau draddodiad hynny.

“Mi fu’n seren ar gyfresi a ffilmiau unigol lawer yn ystod yr 80au a’r 90au, gyda’i bersonoliaeth gref. Roedd o’n edrych y part, yn edrych ac yn swnio fel seren.”

‘Actor toreithiog’

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Byddwn yn cofio J O Roberts fel actor toreithiog fu’n serennu yn rhai o ddramâu cofiadwy a grymus ei gyfnod, ar y radio a’r sgrin fach.

“Uwchlaw hynny, byddwn yn ei gofio fel cymeriad cryf a hoffus fu’n fawr ei ddylanwad ym myd y ddrama yng Nghymru a braf oedd ei weld yn cael ei anrhydeddu am y cyfraniad hwnnw yn ddiweddar.

“Mae ein cydymdeimlad dwys gyda theulu JO ac mae Nia a Gareth yn ein meddyliau yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Bydd y rhaglen Heno ar S4C, heno am 7.00, yn cynnwys teyrnged i J.O. Roberts.