Leanne Wood Llun: Plaid Cymru
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi ysgrifennu at David Davis, yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Brexit, a David Jones, y Gweinidog dros Ewrop, i bwyso arnyn nhw i gyflawni’r addewidion a wnaed i bobl Cymru gan yr ymgyrch dros adael yn ystod refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ei llythyr, mae Leanne Wood yn atgoffa’r gweinidogion fod Cymru wedi cael addewid na fyddai’n colli cyllid yn achos Brexit, y byddai taliadau i’r sector amaethyddol yn parhau, ac y byddai’r Gwasanaeth Iechyd yn derbyn £490m o gyllid yn fwy bob blwyddyn.

Mae’r llythyr wedi cael ei anfon yn dilyn cyhoeddiad a wnaed gan Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns yn Nhŷ’r Cyffredin na ddylai Cymru ddisgwyl yr un lefel o gyllid yn sgil Brexit ag oedd yn ei chael o goffrau’r UE.

‘Addewidion arwyddocaol’

Yn ei llythyr, mae Leanne Wood yn dweud: “Fel arweinydd Plaid Cymru, rwyf wedi dilyn eich datganiadau’n ofalus ers eich apwyntiadau’r wythnos diwethaf. Gwyddoch fod Cymru wedi pleidleisio o fwyafrif bychan i adael yr UE.

“Gwnaed addewidion arwyddocaol gan yr ymgyrch i Adael er mwyn sicrhau’r bleidlais hon. Wrth gydnabod y canlyniad, mae Plaid Cymru eisiau sicrhau fod yr addewidion hynny’n cael eu cadw.

“Nawr fod y Prif Weinidog wedi apwyntio ymgyrchwyr ‘Brexit’ i’w chabinet, eich cyfrifoldeb chi fydd i gyflawni’r addewid a wnaed i Gymru cyn y refferendwm.

“Hyderaf y byddwch yn rhoi dwys ystyriaeth i’r materion hyn, ac edrychaf ymlaen at gydweithio gyda chi’n adeiladol ble fo hynny’n bosib.”