Llun: PA
Mae Llywodraeth Cymru a Chymwysterau Cymru wedi cael eu cyhuddo o “amddifadu cenhedlaeth arall o blant o’r Gymraeg” ar ôl penderfynu parhau â Chymraeg Ail Iaith i blant, yn hytrach na chreu cymhwyster newydd i bob disgybl.

Mewn adroddiad gan yr Athro Sioned Davies yn 2013, awgrymodd y dylid adolygu’r drefn “dros gyfnod o dair i bum mlynedd, a [dylai’r] cwricwlwm diwygiedig [gynnwys]: un continwwm o ddysgu Cymraeg”, gan ddisodli’r elfen Cymraeg ail iaith.

Mewn cyfarfod ac mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith y llynedd, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones y byddai Cymraeg Ail Iaith yn cael ei ddisodli gan greu “continwwm”.

Dywedodd hefyd fod “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac na fyddai hynny’n cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol.

Ond mewn llythyr ar wefan Cymwysterau Cymru erbyn hyn, dywedodd Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Baker fod y cymhwyster Cymraeg Ail Iaith yn parhau.

Dywedodd: “…Mae’n bwysig ein bod yn diwygio’r cymhwyster cyfredol. Cam dros dro yn unig ydyw fodd bynnag, tra bod y gwaith pwysig o ddatblygu’r cwricwlwm yn symud yn ei flaen.”

Yn ôl Cymwysterau Cymru, fe fydd y sefyllfa’n newid unwaith eto ar ôl i’r cwricwlwm cenedlaethol gael ei ddiwygio yn 2020-21.

Mae’r llythyr at yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams yn tynnu sylw at argymhellion yr Athro Sioned Davies yn dilyn arolwg.

Yn yr arolwg, dywedodd hi:

  • nad yw dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs TGAU wedi’u paratoi’n ddigonol i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol
  • bod modd i ddysgwyr ddefnyddio darnau sydd wedi’u dysgu ar eu cof yn yr arholiad, a bod hyn yn eu hannog i’w ddysgu at yr arholiad yn unig, heb roi ystyriaeth i gyd-destunau ehangach
  • bod angen llai o bwyslais ar ddysgu geirfa benodedig o fewn meysydd penodol, a bod angen mwy o bwyslais ar batrymau iaith
  • y dylid annog ysgolion i ddilyn y cwrs TGAU cymhwysol yn hytrach na’r TGAU Ail Iaith
  • y dylid diddymu’r cwrs byr

Mae’r Llywodraeth eisoes wedi penderfynu diddymu’r cwrs byr.

Mae Cymwysterau Cymru’n dweud nad ydyn nhw’n awgrymu y byddai diddymu’r TGAU Ail Iaith yn datrys yr holl broblemau, ond maen nhw’n gofyn am roi ystyriaeth i’r sefyllfa mewn pryd ar gyfer y cymhwyster newydd.

‘Anghredadwy’

Mewn datganiad, dywedodd Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Toni Schiavone y byddai’r penderfyniad yn “amddifadu cenedlaethol arall o blant o’r Gymraeg”, a’i bod yn “anghredadwy eu bod nhw’n gallu anwybyddu teimladau cryf cannoedd o bobol wnaeth ymateb i’r ymgynghoriad”.

“Mae’n hollol annerbyniol ac yn dangos diffyg ewyllys a diffyg gweledigaeth gweision sifil a swyddogion i wneud y newidiadau radical sydd eu hangen. Unwaith eto, maen nhw’n gadael plant i lawr drwy gadw system sydd eisoes wedi ei brofi yn fethiant. 

“Nid oes modd dileu Cymraeg Ail Iaith ar yr un llaw a diwygio’r cymhwyster ‘Cymraeg Ail Iaith’ ar y llaw arall. Naill ai eich bod yn ei ddileu, neu dydych chi ddim – mae mor syml â hynny. Maen nhw’n gwybod hynny’n iawn, ond yn lle gweithredu, maen nhw’n arafu yn ddiangen unwaith eto. 

“Pryderwn yn fawr fod gweision sifil ac asiantaethau eraill wedi gwneud ymdrech fwriadol i rwystro a gwanhau’r penderfyniad. Pryderwn yn fawr y gwelwn, yn y pendraw, barhau â chysyniad Cymraeg ail iaith. Mae hynny’n ddedfryd oes i 80% o’n pobol ifanc.”

Ychwanegodd y byddai’r Gymdeithas yn cwrdd â’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams yr wythnos nesaf i drafod y mater.