Bannau Brycheiniog
Mae milwr wedi marw wrth gymryd rhan mewn ymarferiad hyfforddi ym Mannau Brycheiniog, meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Bu farw’r milwr troed, o Gatrawd y Reifflau, ddydd Mawrth, diwrnod poetha’r flwyddyn hyd yn hyn.

Mae e wedi’i enwi fel Joshua Hoole, 26 oed o Lockerbie yn yr Alban.

Roedd y tymheredd wedi cyrraedd 30C (86F) yn Aberhonddu ddoe, meddai’r Swyddfa Dywydd.

Tri wedi marw o’r blaen

Yn 2013 bu farw tri milwr yn ystod ymarferiad SAS ym Mannau Brycheiniog ar un o ddiwrnodau poetha’r flwyddyn.

Bu farw’r Corporal Edward Maher a Craig Roberts, o Fae Penrhyn, ar ôl gorboethi yn ystod ymarferiad 16 milltir yn y Bannau.

Roedd y Corporal James Dunsby wedi marw bythefnos yn ddiweddarach yn yr ysbyty yn Birmingham ar ol i’w organau fethu.

Fe ddyfarnodd crwner bod esgeulustod wedi chwarae rhan yn eu marwolaethau.

Cadrnhau

Mae llefarydd ar ran y Fyddin wedi cadarnhau marwolaeth y milwr o farics Catraeth.

Yn dilyn ei farwolaeth, dywedodd y Gweinidog Amddiffyn, Harriett Baldwin wrth Bwyllgor Amddiffyn Tŷ’r Cyffredin ei bod yn “farwolaeth drist iawn”.

Fe gadarnhaodd y byddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cynnal “ymchwiliad llawn”.

Yr ymarferiad

Mae’r ymarferiad ar gyfer milwyr sydd am gymhwyso fel sarjant yn y fyddin, ac mae’n cael ei gynnal dair gwaith y flwyddyn – bydd yr un nesaf ym mis Awst.

Mae’n cael ei ddisgrifio gan y fyddin fel “her feddyliol a chorfforol”.

Mae’r ymarferiad yn cynnwys gorymdeithio dros bellter hir tra’n cario pwysau trwm ar y cefn a chloddio.