Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru
Gyda’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu eu her ariannol fwyaf ers cenhedlaeth, mae adroddiad newydd yn datgelu bod gwerth £4.4 miliwn wedi ei atal rhag cael ei golli oherwydd twyll a thaliadau gwallus yn 2014-15.

Meddai’r adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, ei bod hi’n hanfodol i gyrff cyhoeddus ddileu gwastraff ac aneffeithlonrwydd er mwyn lleihau’r effaith bosibl ar wasanaethau.

Cefndir

Ers 1996, mae’r Fenter Twyll Genedlaethol wedi cynorthwyo cyrff cyhoeddus i ganfod taliadau sydd o bosibl yn dwyllodrus neu’n wallus.

Roedd 42 o gyrff y sector cyhoeddus wedi cymryd rhan yn yr ymchwiliad diweddaraf, gan gynnwys awdurdodau lleol, yr heddlu ac awdurdodau tân, a chyrff y Gwasanaeth Iechyd (GIG).

Hyd yma, mae’r cynllun wedi canfod dros £30 miliwn mewn twyll a gordaliadau yng Nghymru, ac £1.39 biliwn ar draws y DU.

Ond mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn awyddus i weld rhagor o sefydliadau’n rhan o’r fenter – gan gynnwys cymdeithasau tai a chyrff sy’n cael eu noddi gan Lywodraeth Cymru.

Meddai Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad, Nick Ramsay AC, ei fod yn annog pob corff yng Nghymru sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus i ymuno a’r fenter.

‘Brwydr yn erbyn twyll’

Meddai Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru: “Mae twyll yn effeithio ar lefel y cyllid sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau rheng flaen, ac felly mae’n rhaid i’r frwydr yn erbyn twyll barhau i fod yn elfen allweddol mewn sicrhau bod arian cyhoeddus cyfyngedig yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol.

“Mae’r Fenter Twyll Genedlaethol yn offeryn tu hwnt o effeithiol, sy’n parhau i chwarae rhan hollbwysig yn y frwydr yn erbyn twyll ac mae’n dda gennyf gyflwyno canlyniadau’r ymarferiad chwe-misol diweddaraf.

“Rwyf yn parhau i weithredu strategaeth ar gyfer ehangu cyfranogaeth a defnydd o’r Fenter yng Nghymru, ac yn annog pob sefydliad yn y sector cyhoeddus i ddod ymlaen gyda chynigion ar gyfer cydweddu data posibl pellach a allai fod o gymorth i atal a chanfod twyll.”

‘Cydweithio’

Meddai Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol:  “Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar y Fenter Twyll Genedlaethol yn dangos beth sy’n bosibl pan fydd cyrff cyhoeddus yn cydweithio i frwydro yn erbyn twyll gan ddefnyddio technegau paru data.

“Fel y mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi nodi yn ei adroddiad, mae lle i wneud y Fenter Twyll Genedlaethol yn fwy llwyddiannus fyth yn y dyfodol drwy annog mwy o sefydliadau i gymryd rhan yn yr ymarfer a thrwy ei ymestyn i feysydd eraill sy’n agored i dwyll.

“Rwy’n croesawu’r cymorth ariannol ychwanegol y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei neilltuo i alluogi sefydliadau i gymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol am ddim, ac rwy’n annog pob corff yng Nghymru sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus i fanteisio ar y cyfle hwn.”