Mae’r tymheredd wedi codi dros 30  gradd selsiws mewn rhannau o Gymru heddiw yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Cafodd tymheredd o 31.2 ei gofnodi ym Mhorthmadog yn y gogledd ac mae disgwyl i’r tymheredd godi i 35 gradd erbyn diwedd y dydd – gan ei gwneud yn boethach na Barcelona.

Bu dros 60,000 o bobl yn ymweld â’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd heddiw mewn tywydd crasboeth.

Meddai llefarydd ar ran y sioe bod y tywydd poeth wedi golygu eu bod nhw wedi rhoi’r cynlluniau tywydd poeth ar waith a bod y siediau da byw yn cynnwys systemau awyru sy’n  golygu nad yw’r anifeiliaid yn dioddef yn y gwres.

Ychwanegodd bod y sioe yn annog ymwelwyr i yfed digon o ddŵr ac i chwilio am gysgod pan mae’r gwres yn mynd yn ormod iddyn nhw.

Ond dyw’r tywydd da ddim yn debygol o aros ac mae rhybuddion am stormydd, cenllysg a gwyntoedd cryfion a allai arwain at lifogydd ar draws Cymru yn ddiweddarach heno.