Melva Phillips, canol, gyda Lesley Griffiths, chwith, a gwraig Brynle Williams, Mary, Llun: Llywodraeth Cymru
Mae ffermwraig ifanc o Geredigion wedi ennill Gwobr Goffa Brynle Williams eleni.

Derbyniodd Melva Phillips, sy’n rhedeg fferm odro gyda’i gŵr Iwan yng Nglynarthen ger Llandysul, y wobr  yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Cafodd y wobr flynyddol ei sefydlu yn 2011 i gydnabod cyfraniad y diweddar Brynle Williams, a oedd yn Aelod Cynulliad ac yn ffermwr, at amaethyddiaeth Cymru.

Mae’n wobr sy’n dathlu llwyddiannau’r ffermwyr ifanc sydd wedi elwa o becyn cymorth gan Lywodraeth Cymru i helpu i ddod â gwaed newydd i’r diwydiant.

‘Dyfodol y diwydiant’ 

Wrth gyhoeddi’r enillydd, meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:  “Roedd Brynle’n grediniol fel finne, mai ffermwyr ifanc heddiw yw dyfodol y diwydiant a rhaid inni fuddsoddi ynddyn nhw i sicrhau bod ganddyn nhw a’r diwydiant ddyfodol llewyrchus.

“Mae Melva wedi dangos penderfyniad a dyfalbarhad aruthrol i sefydlu busnes godro teuluol o dan amgylchiadau anodd.  Mae’n ymgorfforiad o wir ystyr y wobr – mae ganddi angerdd a brwdfrydedd dros ffermio ac mae’r beirniaid yn gwbl sicr eu barn ei bod yn llawn deilyngu’r wobr.”