Rhodri Morgan cyn-Brif Weinidog Cymru Llun: PA
Mae cyn-Brif Weinidog Cymru, actor, ac un o feirdd cyfoes mwyaf adnabyddus Cymru ymhlith y siaradwyr mewn cynhadledd arbennig yn America sy’n archwilio diwylliant a hanes Cymru.

Bydd cynhadledd NAASWCH (Cymdeithas Gogledd America ar gyfer Astudio Diwylliant a Hanes Cymru) yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Harvard rhwng 20 – 22 Gorffennaf.

Mae’r gymdeithas yn cynnwys ysgolheigion, athrawon ac unigolion sy’n hyrwyddo astudiaethau Cymreig ac maen nhw’n cynnal cynhadledd bob dwy flynedd er mwyn i ysgolheigion hanes, llenyddiaeth, iaith a’r celfyddydau gyflwyno a thrafod canfyddiadau eu hymchwil.

Astudiaethau Cymreig

Mae cynhadledd 2016 wedi cael ei threfnu gan yr Athro Daniel G Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton Prifysgol Abertawe ac sydd ar hyn o bryd yn Llywydd NAASWCH.

Meddai Daniel Williams: “Nid yw Astudiaethau Cymreig wedi cael yr un sylw ag   Astudiaethau Gwyddeleg ac Albanaidd yn yr Unol Daleithiau.

“Mae’r gynhadledd hon, gyda dros 100 o gynadleddwyr o bob rhan o Ewrop a’r Unol Daleithiau yn cyfrannu iddi,  yn ceisio unioni’r sefyllfa. Bydd safon a statws y cyfranwyr a’r papurau yn sicrhau bod hwn yn ddigwyddiad hanesyddol ym maes Astudiaethau Cymreig. ”

Siaradwyr

Un o’r prif siaradwyr yn y gynhadledd eleni yw Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru rhwng 2000 a 2009, a fydd yn trafod a yw’r DU yn dadfeilio, a’r ffordd ymlaen i Gymru.

Mae’r actor Matthew Rhys, a enwebwyd yn ddiweddar ar gyfer gwobr Emmy,  yn traddodi Darlith Flynyddol Richard Burton yn y gynhadledd a bydd y bardd a’r awdur, Menna Elfyn, yn trafod ei chofiant newydd o Eluned Phillips, yr unig ferch i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith yn ystod yr Ugeinfed Ganrif.