Mae’r heddlu wedi rhybuddio pobl ifanc i fod yn ymwybodol o’u hamgylchedd tra’n chwarae’r gêm boblogaidd ar-lein Pokémon Go.

Cafwyd adroddiadau heddiw fod dau berson ifanc wedi cael eu gweld gyda’u ffonau symudol yn crwydro ffordd ddeuol yr A55, ger Caergybi.

Y nod gyda’r gêm yw cerdded o amgylch eich cymdogaeth yn chwilio am gymeriadau Pokémon  trwy ddefnyddio camera ffôn clyfar, lle maen nhw’n creu lluniau o’r byd go iawn ar y sgrin ac fe ellir cipio’r cymeriadau gan eu hychwanegu i’w casgliad.

Cyngor

Mae’r  heddlu yn cynghori pobl ifanc i beidio defnyddio eu ffôn mewn ardaloedd sydd heb eu goleuo rhag bod yn darged i ladron. Maent hefyd yn atgoffa pobl ifanc i fod yn ofalus wrth groesi’r ffordd gan osgoi canolbwyntio’n unig ar eu ffôn.

Maent yn rhybuddio pobl i beidio chwarae’r gêm tra’n gyrru  modur ac i beidio crwydro ar dir preifat.

‘Plant yn crwydro’r strydoedd’

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jane Banham ar ran Heddlu Gogledd Cymru:  “Gydag ysgolion yn cau ar gyfer yr haf, fe fydd nifer o blant yn crwydro’r strydoedd i chwarae’r gêm.

“Rydym yn gofyn i bobl ifanc ddefnyddio synnwyr cyffredin tra’n chwarae gan fod yn ymwybodol o’u hamgylchedd.”

Ychwanegodd:  “Fe ddylai plant sicrhau eu bod yn dweud wrth eu rhieni lle maen nhw’n mynd tra’n chwarae ac fe ddylai rhieni siarad gyda’u plant yn egluro’r risgiau sy’n gysylltiedig.”