Mae cynghorydd sir ger Aberystwyth, yn dweud ei fod “fel siarad â wal” wrth geisio cael Llywodraeth Cymru i wella’r brif ffordd rhwng Aberteifi ac Aberystwyth.

Yn ôl Alun Lloyd Jones, mae wedi bod yn ceisio cael gwelliannau i ffordd yr A487 ers 20 mlynedd gan nad yw’r ffordd yn ddiogel, meddai e.

Daw ei sylwadau yn dilyn gwrthdrawiad ar y ffordd yr wythnos ddiwethaf, ar ôl i gar daro tŷ yn agos i’r ffordd.

Cafodd tri pherson eu cludo i’r ysbyty – dau gydag anafiadau difrifol a chafodd dyn 24 oed ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ym mhentref Rhydgaled y tu allan i Aberystwyth a dyma’r ail dro mewn ychydig flynyddoedd i gar daro tŷ yn yr ardal – fe fu digwyddiad tebyg ym Mlaenplwyf rhyw ddwy filltir i’r de.

“Faint mwy sy’n mynd i gael eu lladd?”

“Y gwir amdani yw, mae ‘na idiots ar y ffordd. Dw i wedi teithio ar y ffordd honno ers hanner canrif a dw i heb gael damwain ond ar ôl dweud hynny, nid yw’r ffordd yn addas i’w phwrpas,” meddai’r Cynghorydd Alun Lloyd Jones wrth golwg360.

“Dw i’n cydymdeimlo gyda’r bobol ‘ma sydd wedi cael dolur a dw i’n cydymdeimlo gyda’r bobol sy’n berchen y tŷ.

“Faint mwy o bobol sy’n mynd i gael niwed a chael eu lladd ar yr heol ‘ma? Mae’n hen bryd i rywun gymryd sylw.

“Ry’n ni fel Cyngor Sir wedi gofyn a gofyn (i Lywodraeth Cymru) am wella. Mae e fel siarad â’r wal. Mae’n rhwystredig iawn.”

Pobol yn “colli amynedd”

Dywedodd am fod cymaint o lorïau trwm ar y ffordd, mae pobol yn “colli amynedd, mynd allan i’w pasio a bang.”

Ychwanegodd ei fod wedi ceisio cael cyfyngiadau cyflymder o 20 milltir yr awr y tu allan i’r ysgol gynradd leol ym mhentre’ Llanfarian ond nad oes dim wedi cael ei wneud yno chwaith.

“Dw i wedi ei godi e a chodi e, nes ‘mod i wedi cael digon,” meddai.

‘Ystyried y casgliadau’n ofalus’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae diogelwch ar y ffyrdd yn fater hollbwysig i ni ac rydym yn adolygu’n rheolaidd ddata ynghylch gwrthdrawiadau er mwyn pennu’r angen am welliannau.

“Mae’r heddlu wrthi’n ymchwilio i’r gwrthdrawiadau y cyfeirir atynt a byddwn yn ystyried eu casgliadau’n ofalus.

“Mae’r adolygiad o derfynau cyflymder ar y rhwydwaith cefnffyrdd, a gafodd ei ddiweddaru’r llynedd, wedi argymell bod terfyn cyflymder o 50 milltir yr awr yn cael ei weithredu yn Siawnsri ar yr A487, yn amodol ar ganlyniad gwaith treialu terfyn cyflymder o 50 milltir yr awr ar yr A479.”