Carol Boardman, canol, mam Chris Boardman, Llun: Heddlu Gogledd Cymru/PA
 Mae beiciwr Olympaidd wedi talu teyrnged i’w fam ar ôl iddi gael ei lladd mewn damwain seiclo.

Roedd mam Chris Boardman, Carol, ar ei beic, pan gafodd ei tharo gan gerbyd yng Nghei Conna, ddydd Sadwrn.

Cafodd ei chludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol ond bu farw yn gynnar fore Sul.

Fe wnaeth ei mab, Chris, 47, enillydd medal aur yng Ngemau Olympaidd Barcelona yn 1992, gyhoeddi’r newyddion ar gyfryngau cymdeithasol wrth iddo roi teyrnged ar ran ei deulu.

Teyrnged

“Yn feicwraig rasio mawr ei bri yn ei chyfnod, fe roddodd orau i seiclo cystadleuol pan ddes i a Lisa (i’r byd) ond chollodd hi ddim ei chariad tuag at y beic na thuag at gystadlu,” meddai.

“Ein mam oedd y person mwyaf positif a chlên allwch erioed eu cwrdd ac roedd ei haelioni a’i hysbryd yn ysbrydoli pawb.

“Mae llawer o’n hatgofion fel plant yn cynnwys fy mam a’r awyr agored, yn cerdded dros fanc tywod Hoylake, yn nofio yn y rhigolau dwfn neu’n hel ffosilau ar Ros Llandegla yng ngogledd Cymru.

“Mae’n gadael Keith, ei phartner am dros hanner canrif, Lisa a fi, a theulu mawr, cariadus. Allwn ni ddim meddwl am fyd hebddi.”

Cafodd y deyrnged ei chynnwys yn llawn ar ddiwedd rhaglen Tour de France Highlights ar ITV4 ddydd Sul.

Roedd y tad i chwech yn cymryd rhan yng ngohebiaeth y sianel ar y digwyddiad ond hedfanodd yn ôl i’w gartref yn dilyn y ddamwain.

Heddlu’n apelio am dystion

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael eu galw yn dilyn y gwrthdrawiad ar gylchfan Ffordd yr Wyddgrug, ger cyffordd Ffordd Llanarth am 1:54yh.

Mitsubishi L200 gwyn oedd y cerbyd fu yn y gwrthdrawiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru bod yr heddlu yn “apelio o’r newydd am unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad i ffonio ar 101, gan ddyfynnu’r rhif, U104385.”