David Jones oedd arweinydd ymgyrch Vote Leave yng Nghymru
Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru, David Jones wedi cael ei benodi i swydd yn yr adran newydd fydd yn goruchwylio ymadawiad Prydain â’r Undeb Ewropeaidd.

Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd fydd un o’r gweinidogion yn yr adran ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd, adran sydd wedi cael ei chreu gan y Prif Weinidog newydd, Theresa May.

Jones oedd arweinydd yr ymgyrch Vote Leave yng Nghymru cyn y refferendwm.

Mae Theresa May yn parhau i benodi gweinidogion i’w Chabinet.