Pobol yn dianc yn Nice (@harp_detectives/PA Wire)
Mae o leia’ 84 o bobol – ac efallai mwy – wedi cael eu lladd mewn ymosodiad brawychol yn  Nice yn ne Ffrainc.

Fe gafodd lorri fawr ei gyrru i ganol tyrfaoedd oedd yn dathlu Diwrnod y Bastille – diwrnod cenedlaethol Ffrainc – ar lan y môr yn y dre’ wyliau.

Does dim gwybodaeth eto a oes pobol o Gymru neu wledydd Prydain ymhlith y meirw.

Yr ymosodiad

Fe ddechreuodd adroddiadau tua 10.30 neithiwr (amser Cymru) gyda lluniau ar wefannau cymdeithasol o bobol yn rhedeg am eu bywydau hyd strydoedd y dre’.

Yn ôl rhai tystion, roedd gyrrwr y lorri’n tanio gwn wrth yrru ac mae sôn fod ffrwydron yn y cerbyd hefyd.

Erbyn hyn, mae’r awdurdodau’n dweud mai dyn o dras Tiwnisiaidd oedd y gyrrwr; er nad oes yr un mudiad wedi hawlio cyfrifoldeb, mae Llywodraeth Ffrainc yn dweud yn bendant ei fod yn ymosodiad brawychol.

Mae tua 18 o bobol yn ddifrifol wael hefyd yn sgil yr ymosodiad ar filoedd o bobol oedd allan ar y stryd yn dathlu.

Stad argyfwng

Mae’r ymosodiad wedi cael ei gondemnio gan arweinwyr gwledydd o bob cwr o’r byd.

Mae yna feirniadaeth hefyd ar y trefniadau diogelwch yn Nice – un awgrym yw fod yr awdurdodau wedi llacio eu gafael rywfaint ar ôl llwyddiant heddychlon pencampwriaeth bêl-droed Ewro 2016.

Ddoe, roedd Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, wedi cyhoeddi y byddai’r Stad Argyfwng yn Ffrainc yn dod i ben; mae bellach wedi ei ymestyn.

Cymry’n ymateb

Mae Cymry wedi bod yn ymateb i’r ymosodiadau, ychydig wythnosau’n unig ar ôl i filoedd o gefnogwyr Cymru fod yn Ffrainc ar gyfer pencampwriaeth Ewro 2016.