Stephen Crabb Llun: Dominic Lipinski/PA Wire
Mae Stephen Crabb wedi ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU yn dilyn honiadau am ei fywyd preifat mewn papur newydd.

Dywedodd AS Preseli a Phenfro fod ei ymddiswyddiad “er lles fy nheulu” ddyddiau yn unig wedi i bapur newydd The Times honni ei fod wedi anfon negeseuon WhatsApp o natur rhywiol at fenyw ifanc yn ystod ymgyrch refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd Stephen Crabb yn un o’r pedwar ymgeisydd gwreiddiol yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol cyn tynnu ei enw yn ôl gan gefnogi Theresa May yn ei hymgyrch hi i ddod yn Brif Weinidog.

Meddai Stephen Crabb, cyn-Ysgrifennydd Cymru, mewn datganiad: “Dros y ddwy flynedd ddiwethaf rwy’ wedi cael y fraint enfawr o wasanaethu yn y Cabinet.

“Ar ôl ystyried, rwy’ wedi rhoi gwybod i’r Prif Weinidog heddiw, er lles fy nheulu, na allaf fod yn rhan o’i Llywodraeth ar hyn o bryd.

“Rwy’n ddiolchgar i fy nhîm cyfan am eu gwaith caled ac anogaeth. Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi gweledigaeth un genedl y Llywodraeth o’r meinciau cefn.”

Mae’r Prif Weinidog newydd Theresa May yn parhau i benodi ei chabinet.

Mae Damian Green wedi cael ei benodi yn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau i olynu Stephen Crabb ac mae Alun Cairns yn cadw ei swydd fel Ysgrifennydd Cymru.

Ar hyn o bryd mae enwau mawr fel Michael Gove, Nicky Morgan a John Whittingdale wedi cael eu diswyddo.