Cyngor Sir Benfro
Mae cynghorwyr Sir Benfro wedi rhoi sêl bendith i sefydlu ysgol Gymraeg newydd 3-16 oed yn Hwlffordd, er gwaetha’r goblygiadau posib ar Ysgol Uwchradd y Preseli yng Nghrymych.

Mae disgwyl agor yr ysgol newydd erbyn mis Medi 2018, gydag Ysgol Gynradd Gymraeg Glan Cleddau yn y dre’ yn cau.

Dyma fydd yr ail ysgol Gymraeg ar gyfer disgyblion uwchradd yn y sir, ac mae pryderon y gall ei sefydlu golygu y bydd yr ysgol arall, Ysgol y Preseli, golli hyd at 300 o ddisgyblion, gan olygu lleihad o £1.25m yn ei chyllideb.

Byddai unrhyw ddisgybl sydd am addysg ôl 16 drwy gyfrwng y Gymraeg yn dal i orfod teithio i Ysgol y Preseli.

“Cefnogaeth aruthrol”

Yn yr adroddiad ar sefydlu’r ysgol, mae’n nodi y cafodd ymgynghoriad ar y pwnc 225 o ymatebion gyda “chefnogaeth aruthrol” dros agor ysgol o’r fath yn Hwlffordd.

Wrth agor yr ysgol newydd, bydd 96% o ddisgyblion 3-19 oed sydd am dderbyn eu haddysg yn Gymraeg yn gallu gwneud hynny, heb orfod teithio’n bell.

Y lleoliad ar gyfer yr ysgol newydd ar hyn o bryd yw ardal Llwynhelyg yn Hwlffordd, ond dydy hyn heb ei gadarnhau eto.

Ystyried Preseli

Wrth ystyried yr effeithiau posib ar Ysgol y Preseli, mae cynghorwyr wedi cytuno y bydd yn rhaid ystyried dalgylch y ddwy ysgol, gan sefydlu, o bosib, rhaniad dwyrain/gorllewin.

Byddai hynny’n golygu bod disgyblion yn unedau Cymraeg ysgolion yn Ninbych-y-pysgod ac Arberth yn dal i fynd i Ysgol y Preseli.

Bydd y cyngor hefyd yn ystyried strategaeth ar gyfer yr hir dymor i sicrhau dyfodol Ysgol y Preseli.