Llun: S4C
Yn ôl Adroddiad Blynyddol S4C, mae mwy yn gwylio rhaglenni S4C ar-lein erbyn hyn ond mae’r ffigurau gwylio teledu yng Nghymru wedi gostwng.

Ers y llynedd, mae’r sianel wedi colli 12,000 o wylwyr teledu wythnosol sy’n siarad Cymraeg, gyda’r nifer yn lleihau o 173,000 i 161,000.

Er, mae S4C wedi llwyddo i gadw nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru sy’n gwylio ei rhaglenni – ar-lein ac ar deledu – yn sefydlog, gyda thua 175,000 yn gwylio bob wythnos.

Mae’r ffigwr ledled y Deyrnas Unedig, fodd bynnag, wedi cynyddu i 629,000 – y nifer ucha’ ers naw mlynedd.

O ran y gwylio ar-lein, bu cynnydd o 46% ers y llynedd, gyda Iplayer yn helpu’r sianel i gyrraedd mwy o bobol nag o’r blaen.

Dyma’r flwyddyn lawn gyntaf i’r sianel gofnodi defnydd gwylwyr o Iplayer, ac mae defnydd y llwyfan hwnnw wedi cynyddu 200%.

Mae’r nifer sydd wedi bod yn gwylio S4C ar ei wasanaeth Clic yn parhau i fod yn sefydlog.

Llai yn gwylio ar deledu traddodiadol

Dros y flwyddyn, bu 14,000 o wylwyr yng Nghymru yn gwylio rhaglenni’r sianel genedlaethol ar-lein yn unig.

O ran gwylio teledu traddodiadol, bu gostyngiad o 5%, ond mae hwn yn llai na’r cwymp cyfartalog ymysg darlledwyr cyhoeddus eraill yng Nghymru, sef 8%.

“Mae S4C wedi gweld gostyngiad o 5%, ond beth ry’ ni hefyd wedi ei weld ydi fod 14,000 o wylwyr ar-lein yng Nghymru yn wylwyr unigryw – gwylwyr sydd ddim ond yn ein gwylio ar-lein,” meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones.

“Mae arferion yn newid ac mae pobl yn chwilio am gynnwys mewn ffyrdd gwahanol. Beth mae’r adroddiad yma yn ei wneud yn glir yw bod angen i S4C a’r iaith Gymraeg fanteisio ar y cyfleoedd hynny i fod yn weledol ar y llwyfannau newydd.”

Apelio at yr ifanc?

Bu cynnydd anferth yn nifer y bobol sy’n cysylltu ag S4C drwy Facebook – 244% – drwy wylio fideos, gadael sylw, hoffi neges neu hoffi tudalen y sianel.

Gallai menter newydd S4C, Sianel Pump, sef gwasanaeth newydd sbon i bobol ifanc, fod yn gyfrifol am hyn, ond does dim ffigurau pendant ar y gwasanaeth hwnnw eto, gan mai ym mis Ebrill gafodd ei lansio.

Mae Ian Jones yn nodi sawl her sy’n wynebu’r sianel, gan ddweud bod angen denu pobol mewn cartrefi cymysg ei hiaith, cyrraedd cynulleidfa dan 35 oed “drwy sicrhau bod modd darganfod ein cynnwys yn rhwydd.”

“Ac mae’n rhaid i ni ganfod y llwyfannau newydd sy’n boblogaidd gyda’r gynulleidfa, a sicrhau lle i S4C arnyn nhw. Er mwyn gwneud hynny, mae’n rhaid i ni sicrhau cyllid digonol i’n sianel ynghyd â pharhad ei hannibyniaeth.”

‘Adlewyrchu amrywiaeth bywyd Cymru’ 

Mae’r tuedd tuag at wylio ar-lein yn amlwg iawn yn yr adroddiad, ac mae S4C yn dweud bod deall arferion gwylwyr yn “hanfodol” wrth feddwl am ddyfodol y sianel.

Dyna le mae Adolygiad Annibynnol Llywodraeth Prydain ar S4C yn dod, fydd yn cael ei gynnal yn 2017 i edrych ar drefniadau ariannu’r sianel yn y dyfodol.

Wrth gyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, ei fod yn gobeithio gweld y tuedd hwn i fynd ar-lein yn cael ei adlewyrchu yn yr adolygiad.

“Ein gobaith yw y bydd yr Adolygiad yn ystyried yn ofalus y math o wasanaeth cyfryngol cyfoes y mae siaradwyr Cymraeg ei angen yn ystod y ddeng mlynedd nesaf ynghyd â sut y gall S4C ei ddarparu a’i ariannu ar sail ddiogel,” meddai.

“Mae’n rhaid i S4C osod ei hun wrth galon datblygiadau technegol o’r fath a nodi’n ofalus y ceinciau rhaglenni a’r cynnwys y mae pobl yn mynd i chwilio amdanynt ar y llwyfannau hynny – cynnwys sydd, drwy hynny, yn ymestyn ei oes a’i werth mewn ffyrdd newydd.

“Ein huchelgais yw medru cyflwyno gwasanaeth a darparu cynnwys sy’n adlewyrchu amrywiaeth bywyd Cymru ac yn cryfhau’r Gymraeg, sy’n cystadlu gyda’r gorau ac yn cyflwyno delwedd o Gymru yn rhyngwladol.”