Jonathan Edwards AS Plaid Cymru
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru wedi rhybuddio pobl Cymru rhag cael eu “denu gan y syniad o arweinydd Cymreig i’r Blaid Lafur”, gan gyhuddo Owen Smith o “fethu â gwarchod buddiannau cenedlaethol Cymru.”

Daeth sylwadau Jonathan Edwards wrth i AS Pontypridd gyhoeddi ei fwriad i ymuno â’r ras i fod yn arweinydd nesaf Llafur gan herio Jeremy Corbyn wrth i’r gwrthdaro yn y blaid ddwysau.

Ychwanegodd Jonathan Edwards fod record pleidleisio Owen Smith yn dangos fod ganddo “fwy o ddiddordeb mewn rhoi hwb i’w yrfa ei hun yn San Steffan” na gwneud yr hyn sydd orau i’r cymunedau Cymreig y mae wedi ei ethol i’w cynrychioli.

‘Bradychu etholwyr Cymru’

Dywedodd yr AS dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: “Bydd y rhai sy’n gobeithio fod y posibilrwydd o AS Cymreig yn ymuno â’r ras i arwain Llafur yn newyddion da i’n cenedl yn cael eu siomi’n fawr wrth edrych ar record pleidleisio Owen Smith.

“O fethu a gwrthwynebu toriadau’r Ceidwadwyr i wrthod rhoi rheolaeth i Gymru dros feysydd allweddol megis ynni a phlismona, mae’r AS Llafur dros Bontypridd wedi eistedd ar ei ddwylo yn ystod pleidleisiau hanfodol di-ri.

“Drwy roi ei obeithion gyrfaol yn San Steffan cyn buddiannau ein cymunedau y mae wedi ei ethol i’w cynrychioli, mae Owen Smith yn bradychu etholwyr Cymru.

“Gyda’r bennod ddiweddaraf hon yn hanes hir a diflas tranc Llafur yn dwysau’r rhyfel cartref, mae’n gwbl eglur nad yw’r blaid yn gymwys i lywodraethu.”

Mae Owen Smith wedi dweud y bydd yn arweinydd “radical a chredadwy” a all arwain ei blaid i fuddugoliaeth mewn etholiad.