Llun: PA
Mae Aelod Seneddol Llafur De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty wedi galw ar Theresa May i wneud mwy i warchod y diwydiant dur.

Mae’r trafodaethau ynghylch gweithfeydd Tata ym Mhort Talbot yn parhau, ac mae pryderon fod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi cael effaith ar y broses i ddod o hyd i brynwr newydd.

Mewn dadl yn Westinster Hall, dywedodd Doughty fod rhaid i weinidogion amlinellu beth fyddan nhw’n ei wneud i warchod y diwydiant.

‘Heriau sylweddol’

“Mae’r diwydiant dur yn wynebu heriau sylweddol. Mae yna ddyfodol i’r diwydiant hwn, mae yna ddyfodol disglair i’r diwydiant hwn, ei weithlu, ei gynnyrch a’i rôl yn ein heconomi – ond dim ond os yw’r Llywodraeth yn cymryd camau pendant i ymateb i’r heriau mae’n eu hwynebu.

“Ac mae hynny’n bwysicach fyth yn sgil y penderfyniad ar refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.”

‘Angen sicrwydd a gweithredu’

Ychwanegodd fod canlyniad y refferendwm wedi arwain at “ragor o ansicrwydd, rhagor o heriau i ddiwydiant oedd eisoes yn wynebu cryn anawsterau”.

Wrth i Theresa May olynu David Cameron fel Prif Weinidog, dywedodd Stephen Doughty ei fod yn awyddus i weld Llywodraeth Prydain yn gweithredu.

“Yr hyn y mae’r diwydiant, y gweithwyr yn y diwydiant hwn, a phawb ohonom am ei glywed yw sicrwydd a gweithredu.”

‘Cwestiwn i’r prif weinidog newydd’

Galwodd am weithredu ynghylch costau ynni, gollwng gwastraff a chymorth i’r diwydiant yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd fod hwn yn “gwestiwn i’r prif weinidog newydd”.

“A ydy hi am gymryd y dull laissez-faire ry’n ni wedi’i weld gan bennaeth presennol y gweinidog yn y Cabinet, y syniad yma nad oes strategaeth ddiwydiannol, na ddylen ni fod yn ymyrryd ac yn y blaen, a chyfres eithaf hwyr o ymyriadau yn y diwydiant?

“Neu a ydy hi am fod yn brif weinidog a rhoi Cabinet yn ei le sydd yn mynd i weithredu’n bendant er lles y genedl?”