Mark Drakeford Llun: Senedd.tv
Mewn cyfarfod yng Nghaerdydd ddoe, penderfynodd gweinidogion cyllid Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ofyn i’r Canghellor am drafodaethau am sgil effeithiau Brexit i’r gwledydd datganoledig.

Penderfynodd Mark Drakeford o Lywodraeth Cymru, Derek Mackay o Lywodraeth yr Alban a Máirtín Ó Muilleoir MLA o Ogledd Iwerddon i alw am gyfarfod brys i drafod eu pryderon ynglŷn â chanlyniad y refferendwm a’r effaith y bydd yn ei chael ar gyllidebau’r tair gwlad.

Ond er bod llythyr wedi ei anfon at y Canghellor George Osborne, bydd yn rhaid i’r gweinidogion ddisgwyl i weld pwy fydd y darpar Brif Weinidog Theresa May yn ei benodi i’r swydd pan fydd hi’n symud i 10 Downing Street ddydd Mercher.

Materion ariannol pwysig

Er hynny, mae’r Gweinidogion Cyllid i barhau i weithio gyda’i gilydd ar faterion ariannol pwysig sydd o ddiddordeb i bob un ohonynt, ac yn arbennig yn erbyn toriadau pellach y gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu hystyried yn dilyn y refferendwm.

Mae’r Gweinidogion hefyd eisiau i Lywodraeth y Deyrnas Unedig roi addewid cadarn y bydd y ffrydiau cyllid sy’n gysylltiedig â’r Undeb Ewropeaidd yn parhau.

‘Siarad fel un’

Dywedodd Mark Drakeford: “Yn dilyn  canlyniad y refferendwm, mae rhywfaint o ansicrwydd wedi codi sy’n berthnasol i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’n amlwg y bydd yn cael effaith ar sefyllfa gyllidol y Deyrnas Unedig ac, o ganlyniad, bydd ein cyllidebau ninnau hefyd yn cael eu heffeithio.
“Cawson ni gyfle yn y cyfarfod i ddod at ein gilydd i rannu ein pryderon ac i feddwl sut allwn ni siarad fel un yn y trafodaethau â San Steffan. Dyna pam rydyn ni wedi ysgrifennu at y Canghellor yn gofyn iddo am gyfarfod i drafod ein pryderon ni i gyd ac i ofyn hefyd am sicrwydd i’n pobl, ein cymunedau a’n busnesau.”