Protest Twf ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno deiseb, gyda thua 1,000 o enwau arni, i Lywodraeth Cymru heddiw yn erbyn toriadau i wasanaethau sy’n annog teuluoedd i siarad Cymraeg.

Mae’r Gymdeithas yn galw am adfer gwasanaethau Twf, sydd wedi’i ddisodli gan gynllun y Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant, gyda £200,000 yn llai o gyllideb.

Mae’r toriadau wedi golygu bod sawl sir yng Nghymru wedi colli’r gwasanaeth yn gyfan gwbl, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am adfer swyddi’r cynllun yn Sir Gâr, Ceredigion, Sir Ddinbych, Sir Fflint, Ynys Môn, Sir Fynwy, Torfaen a Wrecsam.

Bydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i Weinidog y Gymraeg, Alun Davies, ac mae disgwyl i’r mudiad gyfarfod ag ef bore ‘ma hefyd i drafod y gyllideb, Mesur y Gymraeg a strategaeth iaith y Llywodraeth.

‘Dim newid’ ar safle’r Llywodraeth

Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru na fyddan nhw’n ymateb i’r ddeiseb ac nad yw ei safbwynt ar doriadau i’r cynllun Cymraeg i Blant wedi newid.

Ac yn dilyn protest ar faes Eisteddfod yr Urdd, yn erbyn y toriadau, dywedodd llefarydd fod “trosglwyddo iaith o fewn y teulu yn parhau yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.”

“Bydd rhaglen Cymraeg i Blant yn gweithredu ar lefel genedlaethol o ran hyrwyddo negeseuon am drosglwyddo iaith, a byddwn yn parhau i gydweithio â nifer o bartneriaid i sicrhau hyn,” meddai.

Mae disgwyl i Alun Davies wneud datganiad yn y Cynulliad y prynhawn ‘ma ar gynlluniau’r Llywodraeth ynghylch y Gymraeg.

‘Allweddol’ i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg

Ym maniffesto Llafur Cymru, roedd addewid i gyrraedd targed Cymdeithas yr Iaith o ‘greu miliwn o siaradwyr Cymraeg’.

Mae annog rhieni i drosglwyddo’r Gymraeg i’w plant yn “allweddol” i gyrraedd y targed hwn, yn ôl Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, sy’n dweud bod y toriadau yn “gamgymeriad”.

“Bu’r prosiect Twf yn rhan bwysig iawn o’r ymdrech i wella defnydd o’r Gymraeg rhwng rhieni a phlant, ac mae’n destun pryder na fydd unrhyw brosiect yn rhedeg mewn nifer fawr o siroedd,” meddai.

“Rydym yn gobeithio wrth lunio strategaeth iaith newydd y Llywodraeth, y bydd y Gweinidog yn gwrth-droi’r toriadau hyn.

“Buddsoddi rhagor yn y Gymraeg oedd un o brif negeseuon a ddaeth o’r gynhadledd fawr drefnodd y Llywodraeth yn sgil canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad.

“Yn lle hynny, rydyn ni wedi gweld llawer llai o arian yn cael ei fuddsoddi yn y Gymraeg. Mae torri prosiect sy’n cynnig cymorth i blant bach a’u rhieni yn gamgymeriad.”