Tim pel-droed Cymru yn cael eu croesawu nol i Gaerdydd ddydd Gwener
Mae Gorsedd y Beirdd wedi awgrymu y gall fod gwahoddiad yn y post cyn hir i rai o bêl droedwyr Cymru yn eu gwahodd i ymuno â’r Orsedd.

Daw’r datganiad gan Gofiadur Gorsedd y Beirdd yr Eisteddfod Genedlaethol, Penri Roberts, yn dilyn llwyddiant y tîm cenedlaethol ym mhencampwriaeth Ewro 2016, yn Ffrainc.

Er bod aelodau’r Orsedd wedi’u cyhoeddi’n barod ar gyfer y Brifwyl yn y Fenni eleni, mae Penri Roberts wedi awgrymu y bydd rhai o dîm Chris Coleman yn gallu dod yn aelodau erbyn 2017, pan fydd yr ŵyl ar Ynys Môn.

Dywedodd Penri Roberts y byddai Eisteddfod Môn yn rhoi “cyfle o’r newydd i anrhydeddu pobol a wnaeth gyfraniad pwysig i’r genedl.”

“Gallaf ddychmygu y bydd enwau diddorol iawn ar y rhestr o enwebiadau ar gyfer 2017!” ychwanegodd.

“Rwyf hefyd yn sicr y bydd yr Archdderwydd newydd Geraint Llifon (ffan arall o’r tîm cenedlaethol) yn cyfeirio at lwyddiant tîm pêl-droed Cymru o’r Maen Llog yn Y Fenni ar ddechrau mis Awst eleni.”

Y rheol Gymraeg

Dim ond aelodau presennol yr Orsedd sy’n cael enwebu neu eilio aelodau newydd a rhaid i bob aelod allu siarad Cymraeg.

Byddai hyn yn gadael y chwaraewyr, Joe Allen, Ben Davies, Owain Fôn Williams ac Aaron Ramsay, ynghyd â’r is-reolwr Osian Roberts, fel yr unig rhai y byddai’n gallu gwisgo’r Wisg Las am eu cyfraniad i chwaraeon.

Fe wnaeth Penri Roberts ganmol gwaith y tîm a’r staff yn hyrwyddo’r Gymraeg hefyd, gan ddweud eu bod wedi “rhoi Cymru a’r iaith Gymraeg ar fap y byd.”

“Gan ategu’r gair a ddefnyddiwyd gan y tîm eu hunain, gallwn ninnau weiddi – “Diolch”,” meddai.

Cofio Bordeaux

Buodd Penri Roberts yn y gêm gynta’ yn Bordeaux, a dywedodd y byddai’r “profiad yn aros” gydag e am byth.

“Wrth sefyll i ganu’r anthem genedlaethol, ymysg môr o grysau coch fe deimlais i emosiwn na theimlais erioed o’r blaen a phrin y gallwn i ganu’r geiriau,” meddai.

“Roedd ein cenedl fechan ni ar y llwyfan rhyngwladol go iawn, a’r iaith Gymraeg i’w chlywed ym mhobman. Meddyliwch o ddifri – dangoswyd y gair “llongyfarchiadau” ar y sgriniau o amgylch y meysydd lle y bu Cymru’n chwarae.”

Derbyniad brenhinol?

Mae datganiad yr Orsedd yn dod wrth i ddyfalu ynghylch ‘derbyniad brenhinol’ posib i’r garfan gynyddu.

Mae’r posibilrwydd o dîm pêl droed Cymru yn cael eu gwahodd i gyfarfod ag aelodau’r teulu brenhinol yn dilyn eu llwyddiant wedi ennyn ymateb chwyrn ar gyfryngau cymdeithasol.