Mark Reckless, AC Ukip Llun: Cyfrif Twitter Mark Reckless
Mae bron i 7,500 o bobl wedi arwyddo deiseb sy’n galw am atal UKIP rhag cadeirio pwyllgor newid hinsawdd y Cynulliad.

Mae ei sefydlwyr yn dweud bod ethol Mark Reckless, un o Aelodau Cynulliad UKIP, yn gadeirydd y pwyllgor yn “annerbyniol”, hynny am nad yw’r blaid yn credu mai’r dynol ryw sydd wedi achosi newid hinsawdd.

Ddiwedd mis Mehefin, fe wnaeth y Cynulliad gyhoeddi ei gadeiryddion ar gyfer pob pwyllgor, wedi i’r system o’u hethol gael ei newid i fod yn bleidlais gudd.

Mae’r ffaith mai UKIP fydd yn cadeirio’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi ennyn ymateb o achos polisïau dadleuol y blaid ar y pwnc.

Yn ei maniffesto, fe wnaeth UKIP ddweud y byddai’n torri £73 miliwn o gyllid ar brosiectau newid hinsawdd, ac mae’r arweinydd yng Nghymru, Nathan Gill, wedi dweud nad yw’n credu mai’r ddynol ryw sy’n gyfrifol am gynhesu byd-eang.

“Bygythiad mwyaf sy’n wynebu Cymru”

Fodd bynnag, mae’r ddeiseb yn dadlau mai newid hinsawdd yw’r “bygythiad mwyaf sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.”

“Yng Nghymru, mae cymunedau arfordirol yn cael ei gadael i wynebu lefelau môr uwch ac mae llifogydd yn effeithio ar gymunedau ledled Cymru,” meddai’r ddeiseb.

“Newid hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf i wynebu cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru ac ni allwn fynd yn ôl ar weithredu ar newid hinsawdd.”

Mae’r ddeiseb yn galw ar y Cynulliad i dynnu UKIP o gadeiryddiaeth y pwyllgor er mwyn “sicrhau bod dyfodol Cymru yn cael ei ddiogelu rhag bygythiad newid hinsawdd.”

Cynulliad ‘methu ymateb’

Er bod y ddeiseb wedi cyrraedd 7,488 o lofnodion, mae swyddogion wedi dweud nad ydyn nhw’n gallu ymateb iddi eto am nad yw wedi cael ei chyflwyno’n swyddogol i’r Cynulliad.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan UKIP Cymru.