Agoriad Tŷ’r Gwrhyd, o’r chwith: Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi; Owain Glenister, Prif Weithredwr Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot; Alun Davies AC; Ali Thomas, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot; yr Athro Iwan Davies, Uwch Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe (llun: Priifysgol Abertawe)
Mae canolfan Gymraeg newydd yng Nghwm Tawe wedi cael ei hagor yn swyddogol gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies AC.

Fe fydd Tŷ’r Gwrhyd, ym Mhontardawe, yn gartref i swyddfeydd Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot, Urdd Gobaith Cymru a Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe, ac mae’n cynnwys hefyd siop lyfrau, ystafelloedd cyfarfod i’w llogi a gofod swyddfa.

Bwriad y cynllun yw hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn ardaloedd Cwm Tawe a Chwm Nedd, lle mae’r iaith wedi bod yn colli tir dros y blynyddoedd.

Meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, prif sefydliad y bartneriaeth sydd y tu ôl i’r cynllun:

“Mae’r ganolfan wedi bod ar agor ers ychydig wythnosau bellach, ac wedi denu cryn gefnogaeth leol.

“Mae’n gyrchfan amlwg i’r rhai sydd am fyw eu bywydau trwy’r Gymraeg neu ddysgu mwy am yr iaith ac mae yma weithgaredd ar gyfer pob oedran a gallu ieithyddol.

“Rydym eisoes mewn cwta fisoedd wedi profi sut mae’r adnodd hwn wedi amlygu’r iaith yng nghymoedd Tawe a Nedd ac wedi adfer rhywfaint ar yr iaith mewn nifer o deuluoedd.”

‘Pwysigrwydd strategol’

Wrth agor y ganolfan yn swyddogol ddydd Iau, meddai Alun Davies AC:

“Bydd Tŷ’r Gwrhyd yn rhan bwysig o’r gymuned, ac yn cynnig gofod modern a chysurus i bobl o bob oed lle gallant fwynhau a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r ardal hon yn un o bwysigrwydd strategol i’r iaith Gymraeg ac fe fydd y Ganolfan hon yn cyfrannu’n fawr tuag at annog mwy o bobl i ddysgu Cymraeg ynghyd â bod â’r hyder i ymarfer a defnyddio’u Cymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.”