Roedd strydoedd Caerdydd dan eu sang nos Wener wrth i fwy na 200,000 o bobol heidio i’r brifddinas i groesawu tîm pêl-droed Cymru adref o Ewro 2016 yn Ffrainc.

Ar ôl cael croeso gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ym Maes Awyr Caerdydd – a gafodd ei ail-enwi’n ‘Cardiff Bale Airport’ am y diwrnod – teithiodd y chwaraewyr ar fws i Gastell Caerdydd.

Roedd y neges ar ochr y bws yn glir: ‘Diolch’.

Cymerodd y daith o ychydig filltiroedd dros awr, ac wrth i’r chwaraewyr ddod i’r golwg y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd, roedd y dorf eisoes yn eu hwyliau, ac yn dynwared rhyfelgri ‘Huh’ Gwlad yr Iâ.

Yn aros am y chwaraewyr yn y stadiwm roedd llu o gantorion a bandiau, gan gynnwys Kizzy Crawford, Mike Peters a’r Manic Street Preachers, a berfformiodd y gân ‘Together Stronger’ a gafodd ei hysgrifennu ar gyfer y gystadleuaeth.

Daeth y cyfan i ben gyda fersiwn emosiynol ac angerddol o ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ gan Gwawr Edwards cyn i’r chwaraewyr gerdded o amgylch y cae am y tro olaf.

Drwy gydol y cyfan roedd cyfle i wylio uchafbwyntiau’r gystadleuaeth a ddaeth i ben yn y rownd gyn-derfynol wrth i Gymru golli o 2-0 yn erbyn Portiwgal yn Lyon nos Fercher.

‘Haeddiant’

Yn ystod y dathliad, dywedodd rheolwr Cymru, Chris Coleman fod y chwaraewyr wedi bod yn “wych” ac yn “haeddu’r cyfan”.

Ond fe bwysleisiodd mai’r “gêm ganlynol” oedd eu ffocws drwy gydol y gystadleuaeth.

“Roedd y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon yn un anodd, a Gwlad Belg wedyn – ond roedd y cyfan yn cylchdroi o’n cwmpas ni.

“Dw i a fy staff yn gwybod pa mor dda y gall ein tîm chwarae a pha mor dda yw’r chwaraewyr, ond ry’n ni’n gwybod os cawn ni’r cyfan yn iawn y gallwn ni guro unrhyw un. Dyna sut ry’n ni’n edrych arni.”

‘Balchder’

Y gair mawr drwy gydol y gystadleuaeth – a’r dathliad – oedd ‘balchder’, ac fe ddywedodd Coleman ei fod e a’i dîm yn benderfynol o “roi rhywbeth i’r genedl fod yn falch ohono”.

“Ry’n ni yng nghanol rhywbeth, ac nid tua’r diwedd.

“Ry’n ni yng nghanol profiad sy’n dda iawn. Mae angen ychydig o lwc arnon ni, yr un awch a chwant ac fe fydd pethau da’n digwydd.”

Ychwanegodd y capten Ashley Williams fod y daith i Ffrainc wedi bod fel “taith ysgol hir” a bod Coleman yn “arweinydd anhygoel”.

Oriel luniau Golwg360

Stori: Alun Rhys Chivers