Mae Chris Coleman wedi wfftio’r syniad o chwarae rhai o gemau rhagbrofol Cwpan y Byd Rwsia 2018 yn Stadiwm y Principality – Stadiwm y Mileniwm gynt.

Wrth i garfan tîm cenedlaethol Cymru ddychwelyd i’r brifddinas ar gyfer taith mewn bws heb do yng Nghaerdydd heddiw, mae’r rheolwr yn grediniol fod angen aros yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Roedd y Prif Weithredwr, Jonathan Ford wedi awgrymu y byddai’n syniad i symud rhai o’r gemau nesaf i Stadiwm y Principality lle mae’r tîm rygbi cenedlaethol yn chwarae.

Ond mynnodd Chris Coleman y bore yma fod angen cadw at y drefn fu mor llwyddiannus hyd yn hyn.

“Stadiwm Caerdydd yw ein cartref,” meddai’r rheolwr.

“Rydym yn cael 30,000 gyda’r stadiwm yn llawn dop ac mae’r awyrgylch yn drydanol.  Fe gafodd teimlad anhygoel ei greu gan ein cefnogwyr ac fe gafodd effaith enfawr ar ein tîm. Ddyle ni ddim anghofio hynny.

“Mi’r ydan ni wedi gwneud penderfyniad mai Stadiwm Dinas Caerdydd yw ein cartref ar gyfer yr ymgyrch nesaf a dw i’n dychmygu y byddwn ni yn glynu gyda hynny a ddyle ni wneud hynny.”

Awyrgylch

Mae agosatrwydd Stadiwm Dinas Caerdydd yn ffactor allweddol, yn ôl Chris Coleman.

“Byddai’n well gen i chwarae yn Stadiwm Caerdydd ble mae 30,000 o Gymry yn sgrechian lawr gyddfau’r gwrthwynebwyr gyda’n hogiau yn bwydo oddi ar hynny, na’r gwrthwynebwyr yn chwarae yn Stadiwm y Mileniwm ble ceir awyrgylch wahanol.

“Dw i’n meddwl y dylem gofio beth sydd wedi bod yn dda i ni, gan beidio bocha gyda chynhwysion yr ymgyrch ddiwethaf.”