Llun i aros yn y cof - Gareth Bale yn dathlu yn Ewro 2016 (Llun PA)
Fe fydd tîm pêl droed Cymru yn cael croeso anferth pan fyddan nhw’n cyrraedd adre’ heddiw.

Mae digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal heno yng Nghaerdydd er mwyn i gefnogwyr ddathlu llwyddiant Chris Coleman a’r chwaraewyr wrth iddyn nhw gyrraedd gêmau pedwar ola pencampwriaeth Ewro 2016.

Mae disgwyl dros 33,000 o gefnogwyr yn y stadiwm a miloedd mwy ar strydoedd canol y ddinas i weld y tîm yn mynd heibio ar fws agored.

  • Fe fydd y bws yn gadael Castell Caerdydd am 4 y prynhawn cyn gyru i lawr y Stryd Fawr, Stryd y Santes Fair, Stryd Wood a Stryd Westgat.
  • Fe fydd wedyn yn croesi Pont Pontcanna cyn mynd i Stryd Wellington a Stryd Lecwydd a chyrraedd Stadiwm Dinas Caerdydd am 5.30pm i gael eu cyfarch gan gefnogwyr yno.

Fe fydd y cyfarfod croeso yn dechrau am tua 5:15 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda band  y Manic Street Preachers yn perfformio i gloi’r noson, ar ôl cyhoeddi cân i gefnogi’r tîm.

Digwyddiad yn y Gogledd

Mae’n ymddangos bod yr holl docynnau eisoes wedi mynd i’r digwyddiad yn y stadiwm ac mae cefnogwyr sydd heb le yn cael eu hannog i geisio gwylio ar y strydoedd.

Fe fydd nifer o strydoedd canol y ddinas yn cael eu cau am y rhan fwya’ o’r prynhawn.

Mae ymgyrch hefyd i gynnal digwyddiad o’r fath yn y gogledd ac fe fydd y daith fws yn cael ei darlledu’n fyw ar S4C rhwng 4 a 5:30.

‘Newid pêl-droed am byth’

Er gwaetha’r siom o golli yn y pedwar ola’ i Portiwgal nos Fercher, mae’r chwaraewyr yn dweud eu bod yn edrych ymlaen at ymuno gyda’r cefnogwyrf.

“R’yn ni’n gobeithio y bydd y stori a’r daith hon yn newid pêl droed yng Nghymru am byth,” meddai’r chwaraewr canol cae, Joe Allen.

“Doedden ni ddim yn barod i fynd adre’, ond nid fel ’na oedd hi i fod. Mae’r holl beth wedi bod yn anhygoel.

Roedd gan y cefnogwyr ran fawr yn y llwyddiant, meddai, cyn dweud bod angen parhau i ennill – fe fyddai digwyddiadau’r wythnosau diwetha’ yn “ysbrydoli’r” bechgyn “i’w wneud eto ac eto,” meddai.

‘Cloi cyfnod bythgofiadwy’

Yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru, sydd wedi trefnu’r digwyddiad heno, mae’r gefnogaeth i’r tîm, adre’ ac yn Ffrainc, wedi bod yn rhyfeddol.

“Mae’r digwyddiad hwn yn ffordd wych o ddathlu cyfnod hanesyddol i bêl-droed Cymru,” meddai’r prif weithredwr, Jonathan Ford.

“Mae’r golygfeydd rydym wedi’u gweld adre’ ac yn Ffrainc wedi bod yn ffantastig a gobeithio gall ein cefnogwyr angerddol fwynhau moment arall gyda’r chwaraewyr i gloi cyfnod bythgofiadwy.”